Ynysoedd y Cefnfor Tawel
Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd y Cefnfor Tawel neu Ynysoedd Môr y De yw'r 20,000 hyd 30,000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Yn draddodiadol, fe'i rhennir i dri grŵp o ynysoedd: Melanesia, Micronesia a Polynesia.
Cynnwys |
Melanesia [golygu]
Mae'r ynysoedd hyn yn cynnwys Gini Newydd, y fwyaf o ynysoedd y Cefnfor Tawel, Caledonia Newydd, Ynysoedd Culfor Torres,Vanuatu, Fiji ac Ynysoedd Solomon.
Micronesia [golygu]
Mae Micronesia ("yr ynysoedd bach") yn cynnwys Ynysoedd Mariana, Guam, Ynys Wake, Palau, Ynysoedd Marshall, Kiribati, Nauru a Gwladwriaethau Ffederal Micronesia.
Polynesia [golygu]
Mae ynysoedd Polynesia yn cynnwys Seland Newydd, ynysoedd Hawaii, Rotuma, Ynysoedd Midway, Samoa, Samoa Americanaidd, Tonga, Tuvalu, Ynysoedd Cook, Polynesia Ffrengig ac Ynys y Pasg.