Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Crysau Duon)

Y Crysau Duon yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd.

Defnyddiwyd y term am y tro cyntaf yn ystod taith 1905-06 i Ynysoedd Prydain gan y tîm cenedlaethol cyntaf o Seland Newydd. Maent yn gwisgo yn gyfangwbl mewn du ar y maes chwarae, gyda rhedynnen arian ar y crys. Cyn dechrau'r gêm mae'n draddodiad fod y tîm yn perfformio'r haka, sef dawns ryfel draddodiadol y Maori. Mae'n medru bod yn brofiad i ddychryn gwrthwynebwyr.

Mae'r Crysau Duon bob amser ymhlith y timau cryfaf yn y byd, a maen nhw wedi ennill Cwpan Rygbi'r Byd tair waith, yn 1987, 2011 a 2015, y rhif fwyaf o deitlau yn hanes y gystadleuaeth. Maent yn cystadlu yn flynyddol yn erbyn Awstralia a De Affrica ym Mhencampwriaeth y Tair Gwlad, a'r Crysau Duon enillodd y gystadleuaeth hon yn 2005.

Canylyniadau[golygu | golygu cod]

(cywir ar 26 Tachwedd 2016):[1]
Gwrthwynebydd Chwaraewyd Ennill Colli Cydradd % Ennill Dros Aga Gwahan
 Yr Ariannin 24 23 0 1 95.83% 974 333 +641
 Awstralia 158 109 42 7 68.99% 3268 2187 +1081
 British and Irish Lions 38 29 6 3 76.32% 634 345 +289
 Canada 5 5 0 0 100.00% 313 54 +259
 Lloegr 40 32 7 1 80.00% 969 560 +409
 Ffiji 5 5 0 0 100.00% 364 50 +314
 Ffrainc 57 44 12 1 77.19% 1431 745 +686
 Georgia 1 1 0 0 100.00% 43 10 +33
 Iwerddon 30 28 1 1 93.33% 862 359 +503
 yr Eidal 13 13 0 0 100.00% 754 128 +626
 Japan 3 3 0 0 100.00% 282 30 +252
 Namibia 1 1 0 0 100.00% 58 14 +44
 Ynysoedd y Môr Tawel 1 1 0 0 100.00% 41 26 +15
 Portiwgal 1 1 0 0 100.00% 108 13 +95
 Rwmania 2 2 0 0 100.00% 99 14 +85
 Samoa 6 6 0 0 100.00% 333 72 +261
 yr Alban 30 28 0 2 93.33% 900 332 +568
 De Affrica 93 55 35 3 59.14% 1863 1458 +405
 Tonga 5 5 0 0 100.00% 326 35 +291
 Unol Daleithiau America 3 3 0 0 100.00% 171 15 +156
 Cymru 33 30 3 0 90.91% 1037 356 +681
 XV y Byd 3 2 1 0 66.67% 94 69 +25
Cyfanswm 552 426 107 19 77.17% 14924 7205 +7719

Rhai chwaraewyr enwog[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "All Blacks test match Record since first test match". All Blacks. Cyrchwyd 22 October 2016.