Moa
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd: Moa (gwahaniaethu)
| Moa | |
|---|---|
| Dinornis maximus | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Struthioniformes |
| Teulu: | Dinornithidae |
| Genera | |
|
Anomalopteryx |
|
Roedd y moa yn aderyn cawraidd nad oedd yn gallu hedfan, sy'n un o 25 rhywogaeth marw sy'n perthyn i deulu'r Dinornithidae, a oedd i'w gael yn y gorffennol yn Seland Newydd.
Roedd gan y moa daldra o hyd at 3m (tua 9 troedfedd), gyda phen bychan, gwddw hir a choesau hirion cryf iawn. Roedd y moaid yn medru rhedeg yn gyflym ond cawsant eu hela'n ddidrugaredd am eu cig gan y Maori ac ymsefydlwyr eraill ar Seland Newydd o ynysoedd Polynesia.
Mae'n bosibl fod rhai o'r moaid llai wedi llwyddo i oroesi yn y fforestydd hyd at y 19eg ganrif.
Eryr Haast cawraidd yn ymosod ar ddau Foa