Esblygiad
Mae esblygiad rhywogaethau dros hanes wedi'i ddisgrifio fel coeden gyda nifer o ganghennau'n tarddu o un bonyn. Dyma yw gwraidd ein syniadaeth heddiw.
Newidiad dros amser nodweddion etifeddedig mewn poblogaethau yw esblygiad. Esblygiad sydd yn gyfrifol am y cymhlethdod a'r amrywiaeth enfawr sydd yn nodweddu bywyd fel y'i welir ar y Ddaear heddiw. Gan fod rhai unigolion yn atgenhedlu yn fwy llwyddianus nag eraill—oherwydd nodweddion sy'n eu galluogi i oroesi'n well, i atynu cymar yn fwy llwyddianus, neu i fanteisio'n well o'u amgylchedd—a gan fod yr unigolion hyn yn tueddu i drawsyrru i'w epil y nodweddion a arweinodd at eu llwyddiant, tueddir i rywogaethau addasu dros amser i'w amgylcheddion. Dyma brif fecaniaeth esblygiad.
Mae ein dealltwriaeth heddiw o fioleg esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau Alfred Russel Wallace a Charles Darwin ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd Charles Darwin ei On the Origin of Species. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw Gregor Mendel a'i waith ar blanhigion a'r hyn rydym yn ei alw'n etifeddeg a genynau.[1]
Cynnwys |
Syniadau newydd Darwin: esblygiad drwy ddetholiad naturiol [golygu]
Charles Darwin a Gregor Mendel yw sylfaenwyr damcaniaeth esblygiad fodern. Cyflwynodd Darwin ei syniadau am ddetholiad naturiol yn 1859. Roedd y syniad yma yn hanfodol bwysig i syniadau Darwin.
Dyma rai o conglfeini detholiad naturiol:
- Pe bai pob organeb yn atgynhyrchu'n llwyddiannus, yna byddai poblogaeth y rhywogaeth hwnnw yn cynyddu tu hwnt i reolaeth[2]
- Mae adnoddau pob amgylchedd yn gyfyngedig (e.e. hyn-a-hyn o goed sydd ar ynys)
- Mae organebau yn wahanol, ac nid oes byth ddau organeb yn union yr un fath; mae gan bob rhywogaeth, felly, gyfoeth o amrywiaeth ac mae amrywiaeth hefyd, wrth gwrs, yn bodoli rhwng rhywogaethau.
- Nid yw'r rhan fwyaf o'r epil yn goroesi (2% o bysgod sydd yn goroesi o'r epil (neu'r wyau) sydd yn cael ei gynhyrchu.)
- Bydd y rhai sy'n goroesi yn atgenhedlu a phasio eu nodweddion i'r genhedlaeth nesaf.
- Felly mae'r nodweddion sy'n galluogi'r unigolyn i oroesi yn cael eu cadw yn y boblogaeth.
Dyma rai o'r ffactorau sy'n penderfynu pa organebau sy'n goroesi:
- Ysglyfaethwyr
- Afiechyd
- Cystadlaeth am fwyd
- Cystadlaeth am dir neu (yn enwedig mewn planhigion) am olau ayyb.
Gelwir effaith y ffactorau hyn yn 'Ddetholiad Naturiol'.
Ar y pryd doedd Darwin ddim yn gwybod am gromosomau, ond erbyn heddiw rydym yn gwybod mai cromosomau sydd yn cludo gwybodaeth etifeddol.
Syniadau gwyddonol yn newid [golygu]
Fel mae gwybodaeth gwyddonol yn newid, oherwydd tystiolaeth neywdd, mae ein syniadau am bethau yn newid. Yn amser Darwin roedd y mwyafrif o bobl yn credu bod y rhywogaethau naturiol sy'n byw ar y ddaear wedi cael eu creu mewn chydig ddyddiau ac eu bod wedi goroesi heb newid ers hynny. Gelwir hyn yn Greadaeth (o'r gair 'creu'). Cafodd Darwin lawer o bobl crefyddol yn gwrthwynebu ei syniadau gwyddonol newydd. Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn derbyn mae detholiad naturiol, ynghyd â mecaniaethau esblygiadol eraill, sydd yn gyfrifol am amrywiaeth bywyd.
Tystiolaeth am Esblygiad [golygu]
Trwy astudio ffosilau mewn creigiau o wahanol oedran (fel y gwnaeth Darwin yng Nghwm Idwal) a'r newidiadau yn eu ffurf dros gyfnod o amser down i wybod mwy am amser a pha bryd y crewyd y gwahanol rywogaethau.
Astudiaeth genetig [golygu]
Gellir edrych ar y genynau sydd mewn gwahanol rhywogaethau ac wedyn eu cymharu e.e. mae dyn a'r tsimpansî yn rhannu 98% o'u genynau.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwefan Saesneg National Health Museum
- ↑ Gweler: The Structure of Evolutionary Theory gan Stephen J Gould, cyhoeddwr: Harvard University Press, 2002, tudalen 1433; isbn = 0674006135
Gweler hefyd [golygu]