Ffotosynthesis
Oddi ar Wicipedia
Adwaith biogemegol sy'n newid ynni solar yn ynni cemegol mewn planhigion gwyrdd, algâu a rhai bacteria yw ffotosynthesis.
Dim ond nifer fach iawn o blanhigion mae'n cael ynni o fwyd, sef ffynhonnell ynni anifeiliaid, ond mae planhigion yn cynhyrchu eu hynni eu hunain drwy droi carbon deuocsid a dŵr yn glwcos. Mae'r planhigion yn cael carbon deuocsid trwy eu dail a'r dŵr drwy eu wreiddiau. I'r adwaith hwn, mae angen ynni golau'r haul, gwres a chrynodiad carbon deuocsid addas (ffactorau cyfyngol). Fel cynnyrch gwastraff mae'r planhigion yn cynhyrchu ocsigen. Mae rhai planhigion yn troi glwcos yn swcros i'w storio, e.e. cansen siwgr neu betys siwgr, ond wedyn mae llawer o blanihigion yn troi'r glwcos yn starts i storio ynni, e.e. tatws neu faip.
Mewn planhigion gwyrdd ac algae, mae'r cloroffyl y tu mewn i'r cloroplastau yn amsmugno'r ynni golau.
Hafaliad cemegol cytbwys ffotosynthesis yw:
- 6H2O + 6CO2 + golau → C6H12O6 (glwcos) + 6O2
Fel hynny, mae carbon deuocsid + dŵr + golau (ynni) yn cynhyrchu ocsigen + siwgr. Anadliad anifeiliaid ac resbiradaeth planhigion yw newid cemegol cyferbyniol: ocsigen + siwgr yn cynhyrchu carbon deuocsid + dŵr + ynni.
[golygu] Gweler hefyd