Ffoton
Oddi ar Wicipedia
|
Ffoton
|
|||
|---|---|---|---|
|
|||
| Cyfansoddiad | Gronyn isatomig | ||
| Teulu | Boson | ||
| Grwp | Gauge Boson | ||
| Rhyngweithiad | Electromagnetig | ||
| Damcaniaeth | Albert Einstein | ||
| Symbol | γ, hν, neu ħω | ||
| Mas | 0 | ||
| Hyd oes cymedrig | Sefydlog | ||
| Gwefr Trydanol | 0 | ||
| Sbin | 1 | ||
Gronyn elfennol o egni electromagnetig yw ffoton. Derbyniwyd y syniad fod gan ymbelydredd electromagnetig gysylltiad ag egni cwanta yn 1905 pan awgrymwyd hyn gan Albert Einstein.
Darganfuwyd bod yr egni sydd gan y ffotonau yma mewn cyfrannedd union efo amledd y don.
Lle:
E yw'r Egni sydd gan ffoton mewn Jouleau
h yw'r Cysonyn Planck
f yw amledd y don mewn herts
Awgrymodd Einstein rhai arbrofion a fyddai'n dangos cwanteiddiad egni sef y ffotonau yma. Yr arbrawf symlaf sy'n profi'r theori yw'r Effaith ffotodrydanol.
