Cell (bioleg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Uned sylfaenol pob peth byw yw cell. Mae rhai nodweddion cyffredin i bob cell, gyda nifer o gelloedd arbennig yn dangos nodweddion ychwanegol. Mae i bob cell:

  • Y DNA gyda'r wybodaeth genetig.
  • Proteinau sy'n cynnal y prosesau biocemegol
  • Cellbilen sy'n amfddifyn y gell ac yn gweithredi fel hildlydd o amgylch y gell, gan gadael rhai sylweddau i ddianc o'r gell neu i ddod i'r gell trwy broses o drylediad neu osmosis. Mae rhai sylweddau hanfodol yn cael eu symud ar draws y gellbilen gan broses o gludiant actif, sef broses sy'n defnyddio ynni i symud sylwedd yn erbyn y graddiant crynodiad.

Mae tasgau cyffredin sylfaenol i bob cell:

  • Cellraniad er mwyn lluosogi celloedd.
  • Y metabolaeth sy'n newid defnydd newydd i ynni ac yn gwaredu defnydd gwastraff
  • Synthesis proteinau trwy drawsgrifio DNA i mRNA a mRNA i broteinau.

Mae mwy na 220 math o gerlloedd mewn corff dynol.

Adeiledd cell[golygu]

Mae celloedd anifeiliaid a chellau blanhigion dipyn yn wahanol, ond dyma'r prif organynnau:

Hanes[golygu]

Y tro cyntaf i rywun ddod o hyd i gelloedd oedd ym 1665 pan ddarganfu Robert Hooke gelloedd pren corc ac wedyn celloedd planhigion byw. Roedd yn defnyddio'r un o'r microsgopau cyntaf i wneud hynny ac erbyn 1675 roedd Anton van Leeuwenhoek yn dadansoddi gwaed a deunydd cyffelyb.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg darganfu Theodor Schwann gelloedd anifeiliaid a phlanhegion. Darganfu Louis Pasteur nad yw'r celloedd yn dod o'r dim (generatio spontanea) - a Rudolf Virchow fod pob cell yn geni o gell arall (omni cellula ex cellula).