Anton van Leeuwenhoek
Oddi ar Wicipedia
Portread o Antonie van Leeuwenhoek (1632–1723) gan Jan Verkolje
Masnachwr a gwyddonydd o Delft, yr Iseldiroedd oedd Antonie Philips van Leeuwenhoek (yn Iseldireg defnyddir Anthonie, Antoni, neu Theunis, yn Saesneg, Antony neu Anton hefyd). Fe'i ystyrir yn aml fel un o gonglfeini cynharaf microfioleg. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith i wella'r microsgop ac am ei gyfraniad at sefydlu microfioleg.