Iseldireg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Iseldireg
Nederlands
Ynganiad IPA [ˈneːdərlɑnts]
Siaredir yn yn bennaf yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, a Suriname, hefyd yn Aruba, Curacao, a Sint Maarten, yn ogystal ag Awstralia, Awstria, Brasil, Canada, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Indonesia, Lwcsembwrg, Sbaen, Sweden, De Affrica, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig.
Rhanbarth yn bennaf yng Ngogledd Ewrop, heddiw hefyd yn Ne America a'r Caribî.
Mae Affricaneg yn cael ei siarad yn Ne Affrica.
Cyfanswm siaradwyr 23.5 miliwn (2006)[1]
Cyfanswm: 28 miliwn
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Yr wyddor Iseldireg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Arwba Arwba
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
Baner Curaçao Curaçao
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Baner Sint Maarten Sint Maarten
Baner Swrinam Swrinam

Nodyn:Country data Benelux
Nodyn:Country data EU
 Undeb Gwledydd De America
Rheolir gan Nederlandse Taalunie
(Undeb yr Iaith Iseldireg)
Codau ieithoedd
ISO 639-1 nl
ISO 639-2 dut (B)  nld (T)
ISO 639-3 nld
Wylfa Ieithoedd 52-ACB-a (mathau:
52-ACB-aa to -an)
Map Dutch World scris.png

Y wlad Iseldireg. Un o Ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ac Undeb Gwledydd De America yw'r Iseldireg.

Iaith frodorol yr Iseldiroedd ydy Iseldireg neu Isalmaeneg (Nederlands:Loudspeaker.svg ynganiad Iseldireg ?/i ). Mae hi'n rhan o'r teuluoedd ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Mae'n perthyn i'r teulu ieithyddol Germanaidd fel Saesneg ac Almaeneg fodern.

Gwledydd lle y siaredir Iseldireg[golygu]

Map yn dangos lle siaredir Iseldireg yn Ewrop.

Siaredir Iseldireg gan bron holl ddinasyddion yr Iseldiroedd a Fflandrys. Iaith frodorol Fflandrys ydy Fflemeg tafodiaith o'r Iseldireg i rai, ond iaith ar wahan i lawer. Cai ei galw'n Vlaams Fflemeg yn aml iawn yn Fflandrys er nad oes lawer iawn o wahaniaethau o fewn yr iaith Iseldireg yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Siaredir hi hefyd yn ardaloedd dwyieithog Brwsel ynghyd â Ffrangeg ac ieithoedd eraill. Yn y rhan fwyaf gogleddol o Ffrainc, arrondissement Dunkirk, siaredir Iseldireg o hyd fel iaith leiafrifol a elwir hefyd yn Vlaams. Ar ynysoedd Aruba ac Antilles yr Iseldiroedd defnyddir Iseldireg o hyd ond mae'n llai cyffredin na Papiamento a Saesneg. Siaredir Iseldireg fel mamiath o hyd yn Suriname gan tua 60% o'r boblogaeth, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddwyieithog gyda Sranan Tongo neu ieithoedd ethnig eraill. Mae yna nifer o siaradwyr Iseldireg yng ngwledydd gyda mewmfudwyr o'r Iseldiroedd a Fflandrys fel Canada, Awstralia, Seland Newydd, ac UDA. Mae'r iaith Afrikaans sydd yn fwy neu lai dealladwy i siaradwr yr Iseldireg yn cael ei siarad yn Ne Affrica a Namibia. Mae yna hefyd nifer o siaradwyr Iseldireg yn Indonesia.

Hanes[golygu]

Geirfa[golygu]

Mae geirfa'r iaith Iseldireg yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y byd gydag o leauf 186,000 gair.

Fel Saesneg, mae Iseldireg yn cynnwys geiriau o'r Roeg a Lladin. Daeth y rhan fwyaf o fenthynciadau o'r Ffrangeg drwy'r Iseldiroedd. Digwyddodd hyn oherwydd y meddylfryd ddaeth gyda'r iaith Ffrangeg mai iaith y dosbarthiadau cymdeithasol cyfoethog yw hi, ac felly cafodd nifer o eiriau Ffrangeg eu mabwysiadau gan ddosbarthiadau uwch yr Iseldiroedd. Ni ddigwyddodd hyn yng Ngwlad Belg oherwydd roedd dinasyddion y dosbarthiadau uwch yn siarad Ffrangeg ac felly doedd dim angen addasu iaith eu hunain. Dylanwadodd termau Ffrangeg yn fawr ar dafodau Iseldireg yn Fflandrys, ond mae siaradwyr Belgaidd yn dueddol o beidio defnyddio benthyciadau Ffrangeg wrth siarad Iseldireg safonol. Serch hynny mae yna nifer o eiriau wedi eu benthyg o'r Ffrangeg yn eithaf diweddar er nad oes ganddynt yr un gwerth. Er enghraifft, mae'r gair "blesseren" (o'r Ffrangeg blesser, sydd yn golygu 'i niweidio') yn cyfeirio at anafiadau chwaraeon yn unig, tra defnyddir y berfau Iseldireg safonol "kwetsen" a "verwonden" yng nghyd-destunau eraill o hyd.

Ar y strydoedd yn enwedig mae yna gynnydd ym menthyciadau o'r Saesneg er eu bod yn cael eu hynganu'n wahanol. Cai'r mewnlifiad o eiriau Saesneg i'r iaith ei gryfhau gan arglwyddiaeth yr iaith Saesneg yn y cyfryngau a'r we. Yn anhebyg i ieithoedd eraill mae'r iaith Iseldireg yn mabwysiadu'r geiriau hyn heb lawer o brotest. Yn wir nid yw ymdrechion i greu fersiynau Iseldireg o'r geiriau newydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.

I gymharu ag ieithoedd Germanaidd eraill[golygu]

Saesneg Ffrisieg Afrikaans Iseldireg (Almaeneg Isel) Almaeneg Swedeg Daneg
Apple Appel Appel Appel Appel Apfel Äpple Æble
Board Board Bord Bord Boord Brett Bräde Bræt
Beech Boeke/ Boekebeam Beuk Beuk Böke Buche Bok Bøg
Book Boek Boek Boek Book Buch Bok Bog
Breast Boarst Bors Borst Borst Brust Bröst Bryst
Brown Brún Bruin Bruin Bruun Braun Brun Brun
Day Dei Dag Dag Dag Tag Dag Dag
Dead Dea Dood Dood Dod Tot Död Død
Die Stjerre Sterf Sterven sterven Sterben
Enough Genôg Genoeg Genoeg Nog Genug Nog Nok
Finger Finger Vinger Vinger Finger Finger Finger Finger
Give Jaan Gee Geven Geven Geben Giva / Ge Give
Glass Glês Glas Glas Glas Glas Glas Glas
Gold Goud Goud Goud Gold Gold Guld Guld
Hand Hân Hand Hand Hand Hand Hand Hånd
Head Holle Hoof / Kop Hoofd/ Kop Kopp Haupt/ Kopf Huvud Hoved
High Heech Hoog Hoog hog Hoch Hög Høj
Home Hiem Heim / Tuis Heim / thuis Heem Heim Hem Hjem
Hook Hoek Haak Haak Haak Haken Hake/ Krok Hage/ Krog
House Hûs Huis Huis Huus Haus Hus Hus
Many Mannich Menige Menige Mennig Manch Många Mange
Moon Moanne Maan Maan Maan Mond Måne Måne
Night Nacht Nag Nacht Natt/ Nacht Nacht Natt Nat
No Nee Nee Nee(n) Nee Nein Nej Nej
Old (older, oldest) Âld Oud Oud (ouder, oudst) aol alt Gammal (äldre, äldst) Gammel (ældre, ældst)
One Ien Een Een Een Eins En En
Ounce Ûns Ons Ons Ons Unze Uns Unse
Snow Snie Sneeu Sneeuw Snee Schnee Snö Sne
Stone Stien Steen Steen Steen Stein Sten Sten
That Dat Dit, Daardie Dat, Die Dat (Dit) Das Det Det
Two/Twain Twa Twee Twee Twee Zwei/ Zwo/ Zwan Två To
Who Wa Wie Wie Wee Wer Vem Hvem
Worm Wjirm Wurm Wurm/ Worm Worm Wurm Mask/ Orm [2] Orm
Saesneg Ffrisieg Afrikaans Iseldireg (Nederduits) Almaeneg Swedeg Daneg

Gramadeg[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Iseldireg)  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Nederlandse Taalunie (2010).
  2. Mae'r gair cytras "Orm" yn golygu "neidr".

Dolen Allanol[golygu]

Geiriaduron[golygu]

Wikipedia
Argraffiad Iseldireg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Iseldireg
yn Wiciadur.