Corff dynol

Oddi ar Wicipedia
Rhai o brif rannau'r corff dynol

Mae'r corff dynol yn cynnwys y rhannau corfforol ac ymenyddol o fodau dynol, h.y. dyn. Yn syml, gellir dweud ei fod yn cynnwys: pen, torso, dwy fraich a dwy goes. Mewn anatomeg ddynol, fodd bynnag, mae'r corff yn cael ei enwi i lawer mwy o gategoriau gan gynnwys yr organau dynol.

Pan fo'r person yn oedolyn mae ynddo oddeutu 10 triliwn o gelloedd. Mae grwpiau o gelloedd yn cydweithio i ffurfio meinweoedd a'r rheiny'n uno a chydweithio i greu organau. Yn eu tro, mae hwythau'n cydweithio i greu system o organau a'r cwbwl yn gweithio er lles a pharhad yr unigolyn.

Maint[golygu | golygu cod]

Cyfartaledd (neu cymedr) taldra oedolyn gwrywaidd yw 1.8 metr, gyda'r fenyw rhwng 1.6 ac 1.7 metr. Yr hyn sy'n pennu'r taldra mewn gwirionedd ydy diet y person a genynau. Ar ôl iddo gael ei eni, daw ffactorau eraill i'r amlwg: ydy'r corff yn cael ei ymarfer yn rheolaidd?

Casgliad o wahanol systemau[golygu | golygu cod]

Casgliad o systemau o organau ydy'r corff dynol sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd, yn sgwrsio a'i gilydd ac yn dibynnu ar ei gilydd. Mae'r systemau hyn yn cynnwys: system atgenhedlol, system cyhyrau, system gylchredol, system endocrinaidd, system nerfol, system respiradu, system ysgerbwd, system iwrein:, system dreulio (neu'r system ysgarthol, system imiwnedd, system bilynol, system symud a'r system lymffatig.

'Swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd'[golygu | golygu cod]

Calon wed'i agor (llun o'r blaen). Mae llif y gwaed wedi'i ddangos gyda'r saethau gwyn.

Mae'r cyhyrau yn symyd yr esgyrn ac felly, mae'r ddau'n gweithio gyda'i gilydd i lunio cymal. Y rhan o'r cyhyr sy'n cydio'n dynn yn yr asgwrn yw'r gewynnau. A'r pwrpas wrth gwrs: i'r corff symud.

Y bardd T. H. Parry-Williams, gyda llaw, bia'r dyfyniad (gweler 'Cerddi'):

Beth ydwyt ti a minnau, frawd,

Ond swp o esgyrn mewn gwisg o gnawd?

System y galon[golygu | golygu cod]

Mae system y galon yn cynnwys gwythienau, rhydweliau a'r capilariau. Prif bwrpas y galon ydy pwmpio gwaed o amgylch y corff a thrwy hynny, mae ocsigen a mwynau angenrheidiol yn cael ei yrru i'r meinweoedd a'r organau. I'w leoli'n fras: yn y thoracs mae'r galon. Y rhan chwith sy'n pwmpio'r gwaed o amgylch y corff h.y. y fentrigl chwith a'r atriwm chwith. Yr ochr ar y dde i'r galon sy'n pwmpio'r gwaed i'r ysgyfaint drwy'r fentrigl dde a'r atriwm dde.[1][2] Mae tair haen i'r galon: yr endocardiwm, y meiocardiwm a'r epicardiwm.[3]

Y system atgenhedlu[golygu | golygu cod]

Y broses fiolegol sy'n creu organebau unigol newydd yw atgenhedlu. Mae atgenhedlu yn rhinwedd greiddiol o fywyd; mae pob organeb (hyd y gwyddom) yn ganlyniad i atgenhedlu. Gall atgenhedlu fod yn rhywiol neu'n an-rhywiol.

Trwy 'atgenhedlu'n an-rhywiol', gall unigolyn atgenhedlu heb angen aelod arall o'r un rhywogaeth. Mae ymraniad cell facteriol yn ddwy epil gell yn enghraifft o atgenhedlu an-rhywiol. Ond mae organebau amlgellog yn atgenhedlu'n an-rhywiol hefyd; gall y rhan fwyaf o blanhigion atgenhedlu'n an-rhywiol.

Mae'n rhaid i ddau unigolyn gymryd rhan mewn 'atgenhedlu rhywiol', un o bob rhyw gan amlaf. Mae atgenhedlu dynol yn rhywiol (erotig), yn ôl y rhan fwyaf o bobl.

Adnabod esgyrn[golygu | golygu cod]

Mae oddeutu 200 o esgyrn mewn ysgerbwd oedolyn gan gynnwys:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cardiovascular System. U.S. National Cancer Institute.
  2. (1993) Human Biology and Health. Upper Saddle River. ISBN 0-13-981176-1
  3.  The Cardiovascular System. SUNY Downstate Medical Center.