Bacteria
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Facteriol)
Organebau microsgopig ungellog yw bacteria. Mae ganddynt gelloedd procaryotig syml. Does ganddynt ddim cnewyllyn diffiniedig neu organynnau fel cloroplastau a mitocondria. Maent yn niferus iawn mewn pridd, dŵr a thu mewn i organebau eraill. Mae rhai bacteria'n achosi clefydau fel tetanws a cholera.