Rhydweli
Oddi ar Wicipedia
Rhydweliau yw pibellau gwaed cyhyrol sy'n cario i ffwrdd o'r galon. Maent yn gweithredu'n groes i wythiennau, sy'n cario gwaed yn ôl at y galon.
Mae system cylchredol y gwaed yn bwysig iawn i gynnal bywyd. Ei brif swyddogaeth yw cario ocsigen a maeth i gelloedd ei organebau, i gludo carbon deuocsid a chynhyrchion gwastraff i ffwrdd, cadw lefel pH i'r optimwm, a symud elfennau, protinau a chelloedd y system imiwnedd.
Mae gan rydweliau swydd bwysig yn y rheolaeth o bwysau gwaed hefyd oherwydd maent yn ymateb i'r system nerfol sympathetig.

