Anatomeg
Oddi ar Wicipedia
Anatomeg (o'r Groeg ἀνατομία (anatomia) sef 'gwahanu a thorri i fyny') yw astudiaeth, adeiladwaith a threfniant organebau byw. Astudiaeth anatomeg anifeiliaid yw sŵtomeg, ac astudiaeth anatomeg planhigion yw ffytonomeg.
Canghennau pwysicaf anatomeg ydy anatomeg gymharol ac anatomeg ddynol. Mae'r gair anatomi fodd bynnag yn cyfeirio at rannau o'r corff dynol yn hytrach na'r pwnc.
Cynnwys |
[golygu] Anatomeg ddynol
Yr astudiaeth wyddonol o sut mae'r corff dynol yn gweithio ydy anatomeg ddynol (hefyd 'anatomi dynol'). Mae dwy ran i'r asudiaeth hon:
- anatomi topograffig: yr astudiaeth o strwythurau y gellir eu gweld gyda'r llygad noeth
- anatomi meicroscopig: yr astudiaeth o strwythurau'r corff gyda chymorth meicrosgop ac offer tebyg, ac sy'n cynnwys histoleg, sef yr astudiaeth o'r meinweoedd.
Dros y blynyddoedd mae anatomeg wedi datblygu drwy disectio, cofnodi a llunio cronfa o wybodaeth am yr organau. Defnyddiwyd a defnyddir heddiw hefyd gyrff anifeiliaid a chyrff marw dynol i ychwanegu at y wybodaeth hon. Ni ddylid, fodd bynnag, gymysgu anatomeg gyda anatomeg patholegol neu histopatholeg sef asudio meinweoedd microscopic organau wedi'u heintio.
[golygu] Anatomeg wyneb y corff
Ar wyneb y corff ceir nifer o wrthrychau hawdd eu hadnabod, fel cerrig milltir ar draws y corff cyfan. Mae lawfeddygon a milfeddygon yn defnyddio'r wybodaeth hon o wyneb y corff fel canllaw pwysig i wybod beth sydd o dan y croen.
[golygu] Anatomeg gymharol
Cymharu'r gwahanol strwythurau o fewn gwahanol anifeiliaid y mae anatomeg gymharol. Roedd Syr Richard Owen (1804 - 1892), sefydlydd yr Amgueddfa Brydeinig yn un o brif arbenigwyr Ewrop ar y pwnc.
[golygu] Anatomegau eraill
Cymharu gwahanol genedligrwydd a hil bodau dynol y mae Anatomeg anthropolegol.
Astudiaeth artistig o'r anatomi (dynol ac anifail) ydyw Anatomeg artistig.

