Patholeg

Oddi ar Wicipedia
Patholeg

Patholeg yw'r enw ar y gangen o feddygaeth sy'n ymwneud ag astudio heintiau a sut y'u cynhyrchir er mwyn deall eu hachosion a'u natur. Mae'n arbenigedd meddygol a datblygodd yn y 19g diolch i waith arbenigwyr fel yr Almaenwr Rudolf Virchow (1891-1902), a ddangosodd fod cysylltiad rhwng newid yn srwythur celloedd a meinwe a heintiau neilltuol.

Ychwanegwyd at ein gwybodaeth am achosion bacteriaidd heintiau ac afiechydon gan waith patholegwyr eraill fel Louis Pasteur. yn yr 20g datblygodd ddwy brif gangen patholeg, sef patholeg glinigol a patholeg gemegol.

Erbyn heddiw mae patholeg yn cynnwys astudio cemeg gwaed, iwrin, faeces a meinwe heintiedig - trwy biopsi neu awtopsi - gyda chymorth technoleg fel peiriannau pelydr-X ac ati.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.