Gwaed

Oddi ar Wicipedia
Gwaed
Enghraifft o'r canlynolmath o sylwedd biogenig, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathhylifau corfforol, cynnyrch anifeiliaid, sylwedd biogenig, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Lliw/iaucoch, di-liw, gwyrdd Edit this on Wikidata
Rhan osystem gylchredol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysplasma gwaed, cell goch y gwaed, cell gwaed gwyn, platennau Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Celloedd coch dynol.
Gwaed allan o wythïen dynol, wedi'i gasglu yn ystod yr ymarfer meddygol o roi gwaed, gan ddangos ei liw coch tywyll.

Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydwelïau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys yr hylif plasma, a chelloedd sy'n llifo drwyddo: celloedd coch (erythrosytau), platennau (thrombosytau) a chelloedd gwyn (lewcosytau).

Dyma'r brif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff. Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Celloedd coch yw'r unig gelloedd yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.

Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair hen Roeg am waed - αἷμα (haima).

Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae rhwng pedwar a hanner i bum litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.

Lliw[golygu | golygu cod]

Mae lliw gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen sydd ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio yr atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn y rhydwelïau a'r capilarïau (mân-wythiennau), mae lefelau'r ocsigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn y gwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.

Chwiliwch am gwaed
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.