Gwyrdd

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Lliw yw gwyrdd, yn cyfateb i olau â thonfedd o dua 520–570 nanomedr.

[golygu] Symbolaeth

Mae'r lliw gwyrdd yn cynrychioli byd planhigion a thyfiant Natur, yn enwedig yn y gwanwyn.

Yn Tsieina mae'n gysylltiedig â mellt a hirhoedledd. Yng nghrefydd Islam, gwyrdd yw lliw ffyniant ysbrydol a materol, doethineb a'r proffwydi;[1] mae i'w weld yn aml ar faneri Islamaidd a baneri cenedlaethol gwledydd Mwslim, e.e. baner Libya.

Yn symbolaeth Cristnogaeth mae gwyrdd yn cael ei gysylltu ac adnewyddu a gobaith; yn yr Oesoedd Canol roedd rhai artistiaid yn paentio croes Crist yn wyrdd fel arwydd o'r Atgyfodiad a'r gobaith o ddychwelyd i Eden.[2]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Udo Becker, The Continuum Encyclopedia of Symbols (Efrog Newydd, 2002).
  2. Udo Becker, op. cit..
Relativity-formula.png Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato