Gardd Eden

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gardd Eden (paentiad ar olew gan Lucas Cranach)

Gardd Eden yw lleoliad y Baradwys Ddaearol yn y Beibl a'r Torah. Yn ôl yr ail ddisgrifiad o greu'r byd a geir yn Llyfr Genesis yn yr Hen Destament, planodd Duw ardd yn Eden, oedd rhywle yn y Dwyrain (Gen. 2:8). Yn fersiwn y Septaguint o'r Hen Destament mae'r gair Hebraeg 'gardd' yn cael ei gyfieithu fel 'Paradwys'.

Dywedir fod Gardd Eden yn cynnwys pob coeden ffrwythau da. Yn ei chanol safai Pren y Bywyd (Coeden Gwybodaeth y Da a'r Drwg). Mae'r goeden yn cael ei dyfrhau gan afon sy'n ymrannu'n bedair cangen wrth iddi adael yr ardd, sef Pedair Afon Paradwys a enwir fel Pishon, Gihon, Hidecel ac Ewffrates.

Roedd Dyn a Dynes (Adda ac Efa) yn byw yn ddedwydd yn yr ardd, mewn cyflwr o ddiniweidrwydd naturiol, yn noethlymun ond heb gywilydd o hynny, nes iddynt fwyta'r Ffrwyth Waharddedig mewn canlyniad i ystryw'r Sarff a chael eu Troi allan o Baradwys oherwydd iddynt bechu.

Cafwyd sawl ymgais i ddarganfod lleoliad Gardd Eden, neu'r safle a fu'n sail i'r traddodiad, gyda ymchwilwyr yn canolbwyntio ar safleoedd yn ne Arabia.


Star of David2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Ichthus.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Allah-green.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill