Proffwydi Islam
Mae Mwslimiaid yn ystyried sawl bod dynol yn un o broffwydi Islam.
Proffwydi yn y Coran [golygu]
Enwir sawl proffwyd yn Coran, gan ddechrau gyda Adda, "y dyn cyntaf". Cred Mwslemiaid fod y proffwydi hyn yn olyniaeth dan law Duw (Allah) ac mai'r Proffwyd Muhammad yw'r olaf am iddo ddatgelu y Coran i'r dynolryw (ond cred rhai yn nyfodiad y Mahdi hefyd).
| Enw (Arabeg) | Enw (Beiblaidd) | Prif erthygl(au) | Cyfeiriadau yn y Coran (nifer y sŵras lle ceir cyfeiriadau) |
|---|---|---|---|
| آدم Adam |
Adda | 5 | |
|
"Adda yw proffwyd cyntaf Islam a'r bod dynol cyntaf i gael ei greu." Mae'n ffigwr pwysig yn Iddewiaeth a'r Gristnogaeth hefyd sy'n cael ei gysylltu yn bennaf a hanes Adda ac Efa fel y'i ceir yn Llyfr Genesis, y Coran a ffynonellau eraill. |
|||
| إدريس Idris |
Enoc |
Prif erthyglau: Idris (proffwyd) a Enoc.
|
3 |
|
Roedd Idris yn broffwyd a achubodd y ddynoliaeth rhag sychder mawr trwy weddio ar Dduw am law. |
|||
| نوح Nuh |
Noa |
Prif erthyglau: Noa yn Islam a Noa.
|
7 |
|
Cysylltir Noa a hanes y Dilyw, ond yn Islam fe'i cofir yn bennaf am hyrwyddo unduwiaeth. |
|||
| هود Hud |
Eber |
Prif erthygl: Hud (proffwyd).
|
9 |
|
Un o'r ychydig rai i oeroesi dilyw a anfonwyd gan Dduw oedd Hud (Eber), yn ôl y sŵra Hud yn y Coran. |
|||
| صالح Saleh |
Shaloh |
Prif erthygl: Saleh.
|
7 |
|
Yn ôl y Coran, dewiswyd Saleh gan Dduw i achub ei bobl rhag cosb ddwyfol. |
|||
| إبراهيم Ibrahim |
Abraham |
Prif erthyglau: Abraham yn Islam a Abraham.
|
5 |
|
Ibrahim yw un o broffwydi mwyaf Islam am fod Mwslemiaid yn credi iddo ailgodi'r Kaaba ym Mecca. Ei fab oedd Ishmael. |
|||
| لوط Lut |
Lot |
Prif erthyglau: Lot yn Islam a Lot.
|
2 |
|
Cofir am Lot yn Islam am ei ran yn hanes Sodom a Gomorra. Mae Islam yn gwrthod rhai o'r hanesion amdano yn y Hen Destament, iddo feddwi a chysgu gyda'i merched er enghraifft, fel rhai cableddus ac enllibus. |
|||
| إسماعيل Isma'il |
Ishmael |
Prif erthygl: Ishmael.
|
9 |
|
Mab cyntafanedig Ibrahim a phroffwyd mawr yn Islam yw Ishmael. Fe'i cysylltir a darganfod y ffynnon sanctaidd Zamzam, ger Mecca. |
|||
| إسحاق Ishaq |
Isaac |
Prif erthygl: Isaac.
|
9 |
|
Ail fab Abraham oedd Isaac, a ddaeth yn broffwyd yng ngwlad Canaan. |
|||
| يعقوب Yakub |
Iacob |
Prif erthygl: Iacob.
|
2 |
|
Yr oedd Yakub yn broffwyd a mab i Isaac, a barhaodd a gwaith ei daid Abraham. |
|||
| يوسف Yusuf |
Ioseff |
Prif erthyglau: Ioseff yn Islam a Ioseff.
|
3 |
|
Mab Iacob a disgynydd i Ibrahim oedd Yusuf. Ceir hanes amdano yn gynghori brenin yr Aifft. Yn ôl dysgeidiaeth Islam, bendithwyd Yusuf â harddwch eithriadol. |
|||
| أيوب Ayyub |
Job |
Prif erthygl: Job.
|
8 |
|
Bendithwyd Ayyub â ffynnon ieunctid am ei wasanaeth i Dduw yn ei dref ger Al Majdal. |
|||
| شعيب Shu'aib |
Jethro | 2 | |
|
Un o ddisgynyddion Abraham oedd Shu'aib. Roedd yn byw yn ardal Sinai. |
|||
| موسى Musa |
Moses |
Prif erthyglau: Moses yn Islam a Moses.
|
5 |
|
Ceir mwy o gyfeiriadau at Musa yn y Qur'an nag at unrhyw broffwyd arall. Credir iddo ddatguddio'r Tawrat (Torah) i'r Hebreaid. Fe'i cysylltir ag ardal Sinai lle cafodd y Deg Gorchymyn wrth arwain yr Hebreaid o'r Aifft i Dir yr Addewid. |
|||
| هارون Harūn |
Aaron |
Prif erthygl: Aaron.
|
8 |
| ذو الكفل Dhul-Kifl |
Ezekiel | 5 | |
|
Mae statws Dhul-Kifl fel proffwyd yn ddadleuol yn Islam, er bod parch mawr ato fel arall. Mae rhai ymchwilwyr yn ceisio ei uniaethu ag Obadiah yn y Beibl. |
|||
| داود Dawud |
Dafydd |
Prif erthygl: Dafydd.
|
7 |
|
Yn Islam, datgelodd Duw y Zabur (Salmau) i Dawud. Ef hefyd a orchfygodd y cawr Goliath. |
|||
| سليمان Süleyman |
Solomon |
Prif erthyglau: Solomon yn Islam a Solomon.
|
6 |
|
Mab Dafydd a phroffwyd doeth oedd Solomon (Arabeg: Süleyman). Cafodd y ddawn i reoli elfennau natur, yn cynnwys y jinn. Roedd ei deyrnas yn ymestyn o Balesteina hyd Arabia, yn ôl y Coran. |
|||
| إلياس Ilyas |
Elija |
Prif erthygl: Elija.
|
3 |
|
Un o ddisgynyddion Harun (Aaron) oedd Ilyas (Elijah), a olynodd y brenin Sulaiman (Solomon). |
|||
| اليسع Al-Yasa |
Elisha |
Prif erthygl: Elisha.
|
3 |
|
Proffwyd a arweiniodd ei bobl ar ôl marwolaeth Elija oedd Al-Yasa (Elisha). |
|||
| يونس Yunus |
Jonah |
Prif erthygl: Jonah.
|
5 |
|
Yn Islam mae Duw yn gorchymun Yunus (Jonah) i arwain pobl Nineveh ar lwybr cyfiawnder. |
|||
| زكريا Zakariya |
Zechariah |
Prif erthygl: Zechariah.
|
6 |
|
Yn ddisgynydd i Solomon, Zakariya (Zechariah) oedd ymgeleddwr Maryam (Mair, mam 'Isa. |
|||
| يحيى Yahya |
Ioan Fedyddiwr |
Prif erthygl: Ioan Fedyddiwr.
|
2 |
|
Yahya (Ioan) oedd cefnder Isa; does dim cyfeiriad ato yn bedyddio Iesu yn y Coran. |
|||
| عيسى Isa |
Iesu |
Prif erthyglau: Iesu yn Islam a Iesu.
|
3 |
|
Ystyrir Isa yn un o broffwydi pennaf Islam, fel Eisa al-Maseeh, (Iesu y Meseia). Nid yw'n cael ei dderbyn fel unig Fab Duw ond yn hytrach fel nabi a rasul (negesydd) Duw. |
|||
| محمد Muhammed |
Ahmad أحمد |
Prif erthygl: Muhammed.
|
294 |
|
I Fwslemiaid uniongred, Muhammed yw'r olaf o'r proffwydi. Sefydlodd grefydd Islam ar ddechrau'r 7fed ganrif. |
|||