Moses

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arweinydd crefyddol Beiblaidd o Iddew o'r 13eg ganrif CC y ceir ei hanes yn yr Hen Destament yn bennaf oedd Moses (Hebraeg: מֹשֶׁה; Hebraeg Cyffredin: Moshe; Hebraeg Tiberiaidd: Mōšeh; Arabeg: موسىٰ, Mūsa Ge'ez: ሙሴ Musse) [1]. Roedd yn rhoddwr cyfraith, proffwyd, ac arweinydd milwrol, ac ef a gyfrifir, yn ôl traddodiad, fel awdur y Torah (y Pentateuch). Mae Moses yn broffwyd pwysig yn Iddewiaeth[2], Cristnogaeth, Islam[3], y grefydd Bahá'í, Mormoniaeth, Rastafariaeth, a Raeliaeth[4], a sawl traddodiad arall.

Yn yr Hen Destament ceir ei hanes yn bennaf yn Llyfr Ecsodus. Arweiniodd yr Hebreiaid o alltudiaeth yn Yr Aifft i Wlad yr Addewid. Dywedir iddo farw ar ôl esgyn i gopa Mynydd Nebo i gael golwg ar Wlad yr Addewid.

[golygu] Cyfeiriadau

  1. "Moses." Encyclopædia Britannica. 2007. Encyclopædia Britannica Ar-lein
  2. Deuteronomy 34:10 KJV
  3. Qur'an 19:51-51
  4. "Raël, Intelligent Design, p. 114, p. 312, p. 324.


Star of David2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Ichthus.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Allah-green.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill