Yr Aifft

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
جمهورية مصر العربية
Ǧumhūriyyat Miṣr al-ʿArabiyyah

Gweriniaeth Arabaidd yr Aifft
Baner yr Aifft Arfbais yr Aifft
Baner Arfbais
Arwyddair:
Anthem: Bilady, Bilady, Bilady
Lleoliad yr Aifft
Prifddinas Cairo
Dinas fwyaf Cairo
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg
Llywodraeth Gweriniaeth
- Arlywydd Abdel Fattah al-Sisi
- Prif Weinidog gwag
Sefydliad
- Brenhinlin Gyntaf
- Rhoddir Annibyniaeth
- Datganiad y Weriniaeth

c. 3200 CC
28 Chwefror, 1922
18 Mehefin, 1953
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,001,450 km² (30ain)
0.6
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 1996
 - Dwysedd
 
76,000,000 (16eg)
59,312,914
77/km² (120fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2004
$339,200,000,000 (32ain)
$4,072 (112fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.659 (119eg) – canolig
Arian cyfred Punt Eifftaidd (LE) (EGP)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC+3)
Côd ISO y wlad .eg
Côd ffôn +20

Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, rhan o'r Dwyrain Canol, yw Gweriniaeth Arabaidd yr Aifft neu'r Aifft (Arabeg مصر, sef Misr, neu Másr yn nhafodiaith yr Aifft). Er bod y wlad yn Affrica, cyfrifir Gorynys Sinai, i'r dwyrain o Gamlas Suez, yn rhan o Asia. Mae rhan fwyaf o bobl yr Aifft yn byw ar lannau Afon Nîl (40,000 km²). Ond mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o ddiffeithdir y Sahara, ac felly â dwysedd poblogaeth isel iawn.

Mae'r wlad yn enwog am ei hanes hynafol a'i hadeiladau trawiadol o gyfnod yr Hen Aifft er enghraifft pyramidiau Cheops (Khufu) a Khafre, Teml Karnak, Dyffryn y Brenhinoedd a lleoedd eraill. Heddiw, ystyrir mai'r Aifft yw canolbwynt gwleidyddol a diwylliannol y Byd Arabaidd.

Yn dilyn 18 diwrnod o brotestio ledled y wlad ymddiswyddodd yr Arlywyd Hosni Mubarak sydd yn briod gyda hanner Cymraes, Suzanna Mubarak ar 11 Chwefror, 2011 gan drosglwyddo pwer y wlad i'r Llu Arfog.

Daearyddiaeth[golygu]

Hanes[golygu]

Yr Hen Aifft[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Yr Hen Aifft

Roedd yr Hen Aifft yn wareiddiad a ddatblygodd ar hyd canol a rhan isaf Afon Nîl o tua 3150 C.C. hyd nes iddi ddod yn dalaith Rufeinig Aegyptus yn 31 C.C. Yr oedd yn ymestyn tua'r de o aber Afon Nîl hyd at Jebel Barkal ger y pedwerydd cataract. Ar brydiau roedd yr Aifft yn rheoli tiriogaethau ehangach.

Iaith a Diwylliant[golygu]

Arabeg yw'r iaith swyddogol yn yr Aifft. Hyd at yr 16 ganrif, siaradid hefyd yr iaith Gopteg yno, disgynydd iaith yr Hen Aifft (yr Hen Eiffteg).

Economi[golygu]

Gweler hefyd[golygu]


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci


Flag of Egypt.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Yr Aifft
yn Wiciadur.