Y Weriniaeth Arabaidd Unedig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Y wladwriaeth a ffurfiwyd gan undeb gweriniaethau'r Aifft a Syria yn 1958 oedd y Weriniaeth Arabaidd Unedig (Arabeg: الجمهورية العربية المتحدة). Bodolai tan ymwahaniad Syria o'r undeb yn 1961. Cairo oedd y brifddinas, Arabeg yr iaith swyddogol ac Islam y grefydd genedlaethol. Gamal Abdel Nasser, arlywydd yr Aifft cyn yr undeb, oedd yr unig arlywydd. Amcan yr undeb oedd creu cenedl Arabaidd unedig a fyddai'n sail i undeb ehangach ymhlith y cenhedloedd Arabaidd. Roedd i gryn raddau yn rhan o ymateb cenedlaetholwyr seciwlar y byd Arabaidd i argyfwng Suez a'r teimlad fod rhaid cael undod i wrthsefyll dylanwad economaidd a gwleidyddol y Gorllewin.

Cyfeiriadau[golygu]

Flag of Egypt.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Syria.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Syria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato