Qatar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
دولة قطر
Dawlat Qatar

Gwladwriaeth Qatar
Baner Qatar Arfbais Qatar
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: As Salam al Amiri
Lleoliad Qatar
Prifddinas Doha (Ad Dawhah)
Dinas fwyaf Doha
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
- Emir Sheikh Hamad bin Khalifa Al Thani
- Prif Weinidog Hamad bin Jassem bin Jaber Al Thani
Annibyniaeth
3 Medi 1971
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
11,437 km² (164ain)
dibwys
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2007
 - Cyfrifiad 2004
 - Dwysedd
 
841,000 (158ain)
744,029
74/km² (121ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$25.01 biliwn (102il)
$31,397 (11eg)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.844 (46ain) – uchel
Arian cyfred Riyal (QAR)
Cylchfa amser
 - Haf
AST (UTC+3)
(UTC+3)
Côd ISO y wlad .qa
Côd ffôn +974

Gwladwriaeth Arabaidd sofren yn y Dwyrain Canol yw Qatar (Arabeg: قطر ; ˈqɑ̱.tˁɑ̱r) neu'n swyddogol Talaith Qatar (Arabeg: دولة قطرDawlaṫ Qatar). Fe'i lleolir ar orynys ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Arabia ar lannau'r Gwlff yng Ngorllewin Asia. Mae'n ffinio â Saudi Arabia i'r de (ei hunig ffin) ac mae ynys Bahrain yn gorwedd i'r gorllewin. Ei ffiniau eraill yw Gwlff Persia. Ceir gwlff sy'n ei gwahanu rhag gwladwriaeth Bahrain. Yn 2013 roedd poblogaeth Qatar yn 1.8 miliwn; 278,000 o ddinasyddion Qatari ac 1.5 miliwn o alltudion.[1]

Doha, prifddinas Qatar.

Hanes[golygu]

Yn yr 20fed ganrif, ar ôl iddi gael ei rheoli gan Ymerodraeth yr Otomaniaid, fe'i rheolwyd gan Brydain nes iddi ddod yn annibynol yn 1971. Chwaraeodd y teulu Al Thani le blaenllaw yn ei rheolaeth ers canol y 19eg ganrif, ac mae Qatar heddiw dan reolaeth unbeniaethol ei theulu brenhinol; ei harlywydd yw Emir Tamim bin Hamad Al Thani.[2] Wedi Saudi Arabia, Qatar yw'r gymdeithas mwyaf ceidwadol o aelodau'r مجلس التعاون لدول الخليج العربية (Cyngor Cydweithredol y Gwlff (neu'r GCC)).[3][4]

Crefydd[golygu]

Mae'r rhan fwyaf o Qatariaid yn cadw'n agos iawn i ddehongliad Wahhabi o Islam.<[5][6][7][8] [6][9] Cyfraith Sharia yw prif ffynhonnell eu cyfreithiau, yn unol â chyfreithiau eu gwlad.[7][8]

Heddiw[golygu]

Qatar yw gwlad gyfoethoca'r byd, yn ôl y pen, gyda thwf uwch nag unrhyw wlad Arabaidd arall. Caiff hefyd ei chydanbod fel 'economi incwm uchel' gan Fanc y Byd.[10][11] Mae ganddi fwy o nwy wrth gefn nag unrhyw wlad arall ar y Ddaear; mae ei chronfa wrth gefn dros 25 biliwn casgen. Oherwydd hyn i gyd, mae dylanwad Qatar yn fawr iawn. Yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cefnogodd Qatar nifer o grwpiau gwrthryfelgar, yn ariannol a thrwy ei grŵp cyfryngol Al Jazeera.[12][13][14] Qatar fydd yn cynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2022, y wlad Arabaidd gyntaf i wneud hynny.[15]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Population of Qatar". http://www.bqdoha.com/2013/12/population-qatar. Adalwyd Rhagfyr 2013. 
  2. "Qatar: regional backwater to global player". BBC News. http://www.bbc.co.uk/news/world-middle-east-20890765. 
  3. "Qatar: Revolution From the Top Down". National Geographic. http://ngm.nationalgeographic.com/features/world/asia/qatar/qatar-text/1. Adalwyd 7 Mawrth 2014. 
  4. "For Qatari Women, Change Slow in Coming". ABC News. http://abcnews.go.com/International/story?id=79539. Adalwyd 7 Mawrth 2014. 
  5. "Tiny Qatar's growing global clout". BBC. http://www.bbc.com/news/world-middle-east-13229852. 
  6. 6.0 6.1 "Qatar's modern future rubs up against conservative traditions". Reuters. 27 Medi 2012. http://www.reuters.com/article/2012/09/27/uk-qatar-modernism-idUSLNE88Q00D20120927. 
  7. 7.0 7.1 "The Permanent Constitution of the State of Qatar". Government of Qatar. http://www.almeezan.qa/LawArticles.aspx?LawArticleID=25754&LawId=2284&language=en. 
  8. 8.0 8.1 "Constitution of Qatar". http://www.wipo.int/wipolex/en/details.jsp?id=9626. "According to Article 1: Qatar is an independent Arab country. Islam is its religion and Sharia law is the main source of its legislation." 
  9. "Rising power Qatar stirs unease among some Mideast neighbors". Reuters. 12 February 2013. http://www.reuters.com/article/2013/02/12/us-qatar-neighbours-idUSBRE91B0R920130212. Adalwyd 13 June 2013. 
  10. Beth Greenfield (18 Ebrill 2012). "World's Richest Countries". Forbes. http://www.forbes.com/sites/bethgreenfield/2012/02/22/the-worlds-richest-countries/. Adalwyd 22 Ionawr 2013. 
  11. "Indices & Data | Human Development Reports". United Nations Development Programme. 14 Mawrth 2013. Archived from the original on 12 January 2013. https://web.archive.org/web/20130112042847/http://hdr.undp.org/en/statistics/. Adalwyd 27 Mehefin 2013. 
  12. Dagher, Sam (17 Hydref 2011). "Tiny Kingdom's Huge Role in Libya Draws Concern". Online.wsj.com. http://online.wsj.com/news/articles/SB10001424052970204002304576627000922764650. Adalwyd 30 Rhagfyr 2013. 
  13. "Qatar: Rise of an Underdog". Politicsandpolicy.org. http://politicsandpolicy.org/article/qatar-rise-underdog. Adalwyd 30 Rhagfyr 2013. 
  14. Ian Black in Tripoli. "Qatar admits sending hundreds of troops to support Libya rebels". Theguardian.com. http://www.theguardian.com/world/2011/oct/26/qatar-troops-libya-rebels-support. Adalwyd 30 Rhagfyr 2013. 
  15. Paul Rhys in Doha. "Blatter reaches out to Arabia". Aljazeera.com. http://www.aljazeera.com/sport/2010/04/2010424184010305993.html. Adalwyd 30 Rhagfyr 2013. 
LocationAsia.png Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato