Korea
Oddi ar Wicipedia
Gwlad hanesyddol a thiriogaeth ddaearyddol a diwylliannol yn Nwyrain Asia, i'r dwyrain o China ac i'r gorllewin o Japan, yw Korea (neu Corea). Ers y 1950au fe'i rhennir yn ddwy wladwriaeth, sef Gweriniaeth De Korea a Gogledd Korea. Gwlad Gomiwnyddol yw Gogledd Korea a rhwng Mehefin 1950 a Gorffennaf 1953 bu rhyfel rhwng y ddwy wlad fel rhan o'r Rhyfel Oer.
[golygu] Hanes Korea
Meddiannodd Siapan Korea o 1910 hyd at 1945 pan "ymroddodd" Siapan tua diwedd yr ail ryfel byd. Derbyniwyd yr ymroddiad gan yr Undeb Sofietaidd yng gogledd y wlad, a gan yr UDA yn y de. Wrth i'r llywodraeth Sofietaidd a llywodraeth yr UDA fethu cytuno ar ddyfodol y wlad, Syngman Rhee ddaeth yn arweinydd y De cyfalfol a'r Capten Kim Il Sung yn arweinydd y Gogledd sosialaidd.
[golygu] Rhyfel Korea
Gyda'r bwriad o ail uno'r wlad o dan ei arweiniaeth ymosododd lluoedd Kim Il Sung ar y De yn 1950. Dechreuodd Rhyfel Korea gyda goresgyniad Inchon ar 25ain o Fehefin. Daeth Prydain a'r Unol Daleithiau i mewn yn filwrol ar ochr y De tra bu'r Gogledd yn mwynhau cefnogaeth yr Undeb Sofietaidd dan Stalin a Gweriniaeth Pobl China dan Mao Zedong. Arwyddwyd cadoediad rhwng y Gogledd a'r UDA ar rhan yr CU yn Panmunjeom yn 1953 a chrewyd ffin cadoediad yn ardal anfilwrol (DMZ - Demilitarised Zone) hyd Lledred 38 rhwng y De a'r Gogledd, tua'r un lle a'r ffin cyn y rhyfel. Yn dechnegol, mae'r ddwy wlad yn dal mewn rhyfel.
[golygu] Heddiw
Mae Gweriniaeth De Korea (prifddinas: Seoul) dan ei harlywydd Roo Moo Hyun yn wlad ddemocrataidd heddiw, ond mae'r Gogledd yn parhau i fod yn wlad Stalinaidd ar linellau'r hen Undeb Sofietaidd dan ei harweinydd Kim Jong-il a'i lywodraeth yn Pyongyang.

