Taiwan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gweriniaeth Tsieina)
Taiwan
Mathgwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, ynys-genedl, gweriniaeth ddemocrataidd, gwlad, gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Taiwan.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasTaipei Edit this on Wikidata
Poblogaeth23,593,794 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ionawr 1912 Edit this on Wikidata
AnthemAnthem Genedlaethol Gweriniaeth Tsieina Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethChen Chien-jen Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00, Asia/Taipei, amser yn Taiwan Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Iaith Genedlaethol Gweriniaeth Tsieina, Taiwanese Hakka, Hokkien Taiwan, Amis, Paiwan, Kinmen dialect, O-ku-uā, Matsu dialect, Taiwanese Sign Language, Saisiyat, Puyuma, Atayal, Tsou, Bunun, Rukai, Truku, Seediq, Sakizaya, Yami, Kavalan, Kanakanavu, Saaroa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Tsieina Gweriniaeth Tsieina
Arwynebedd36,193 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Dwyrain Tsieina, Culfor Taiwan, Culfor Bashi, Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaJapan, y Philipinau, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24°N 121°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolY Gweithredwr Yuan Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholYr Yuan Deddfwriaethol Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Gweriniaeth Tsieina Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTsai Ing-wen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Gweithredwr yr Yuan Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethChen Chien-jen Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadBwdhaeth, Taoaeth, crefydd gwerin Tsieina Edit this on Wikidata
ArianDoler Newydd Taiwan Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.07 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.911 Edit this on Wikidata

Gwlad yn Nwyrain Asia ydy Taiwan, a gaiff ei adnabod yn swyddogol fel Gweriniaeth Tsieina (Tsieineeg traddodiadol: 台灣), Pescadores, Quemoy, Matsu, Pratas. Prifddinas y wladwriaeth yw Taipei, ar ynys Taiwan. Yn ffinio â'r weriniaeth mae Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gorllewin, Japan i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain a Gweriniaeth Y Philipinau (neu'r Philipinau) i'r de. Taipei ydy'r brifddinas swyddogol yn ogystal â chanolbwynt diwylliant ac economeg y wlad.

Hanes[golygu | golygu cod]

Taiwan

Hyd at 10,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gododd lefel y môr, roedd yr ynys yn sownd yn y tir mawr. Cafwyd hyd i olion dyn ar yr ynys sy'n dyddio'n ôl i rhwng 20,000 a 30,000 o flynyddoedd.[1] Ychydig dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl ymfudodd ffermwyr o dir mawr Tsieina i'r ynys; credir mai'r rhain yw cyndeidiau Brodorion Taiwan. Roedd eu hiaith yn perthyn i ieithoedd Awstralaidd. Yn y 13g setlodd Tsieiniaid Han ar ynysoedd Penghu ond roedd brodorion Taiwan yn anghroesawgar tuag atynt. Dim ond ychydig bysgotwyr fedrai sefydlu yno, tan yr 16g.[2]

Gwladychwyd rhannau o'r ynys gan Iseldirwyr (Vereenigde Oost-Indische Compagnie) a Sbaenwyr yn 1626. Roeddent ill dau'n awyddus i ddefnyddio'r ynys fel troedle i farchnata. Yn dilyn cwymp Brenhinllin Ming daeth unoliaethwr Mingaidd i'r ynys, sef dyn o'r enw Koxinga gan hel yr Iseldirwyr (1662) ac ymosod ar dir mawr Tsieina. Lladdwyd ei ŵyr yn 1683 gan Shi Lang o dde Fujian, fe unwyd Taiwan gyda Qing.

Yn rhyfeloedd Sino-Japan 1894-1895, gorchfygwyd yr Ymerodraeth Qing gan Japan a chychwynwyd ar unwaith ar y gwaith o ddiwydiannu'r ynys e.e. porthladdoedd a rheilffyrdd. Erbyn 1938 roedd dros 309,000 o Japaniaid yn byw yn Taiwan.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod]

Saif ynys Taiwan tua 180 kilometr i'r de-ddwyrain o Tsieina, ar draws Culfor Taiwan ac mae ganddo arwynebedd o 35,883 km2 (13,855 mi sgw). Mae cryn wahaniaeth rhwng dau draean dwyreiniol yr ynys a'r traean gorllewinol. Mae'r ochr ddwyreiniol yn bum rhes o fynyddoedd geirwon sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de. Mynydd uchaf Taiwan ydyYu Shan sy'n 3,952 m o uchder. Ceir pum copa arall sydd dros 3,500 metr ar yr ynys. Dyma, felly bedwaredd ynys uchaf ar y Ddaear.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chang, K.C. (1989). translated by W. Tsao, ed. by B. Gordon. "The Neolithic Taiwan Strait". Kaogu 6: 541–550, 569. http://http-server.carleton.ca/~bgordon/Rice/papers/App.18ChangKC89.pdf. Adalwyd 2012-06-14.
  2. Shepherd, John R. (1993). Statecraft and Political Economy on the Taiwan Frontier, 1600–1800. Stanford University Press. t. 7. ISBN 978-0-8047-2066-3. Reprinted Taipei: SMC Publishing, 1995.
  3. "Tallest Islands of the World — World Island Info web site". Worldislandinfo.com. Cyrchwyd 1 Awst 2010.

Gwaith a gyfeiriwyd[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato