Cambodia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cambodia5-trans.png
Preăh Réachéanachâkr Kâmpŭchea

Teyrnas Cambodia
Baner Cambodia Arfbais Cambodia
Baner Arfbais
Arwyddair: Cenedl, Crefydd, Brenin
Anthem: Nokoreach
Lleoliad Cambodia
Prifddinas Phnom Penh
Dinas fwyaf Phnom Penh
Iaith / Ieithoedd swyddogol Chmereg
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
- Brenin Norodom Sihamoni
- Prif Weinidog Hun Sen
Annibyniaeth
- Datganwyd
- Cydnabuwyd
oddiwrth Ffrainc
1949
1953
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
181,035 km² (89ain)
2.5
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 1998
 - Dwysedd
 
14,071,000 (63)
11,437,656
78/km² (111eg)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$34.67 biliwn (89ain)
$2,399 (133ain)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.571 (130ain) – canolig
Arian cyfred Riel1 (KHR)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+7)
(UTC+7)
Côd ISO y wlad .kh
Côd ffôn +855
1Defnyddir Doler yr Unol Daleithiau yn eang.

Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Cambodia neu Cambodia. Arferai'r wlad gael ei galw'n Kampuchea ac mae ganddi boblogaeth o 14 miliwn o drigolion.[1] Mae'n ffinio â Gwlad Thai i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin, Laos i'r gogledd-ddwyrain a Fietnam i'r dwyrain a'r de-ddwyrain. I'r de, daw wyneb yn wyneb â Gwlff Gwlad Thai. Dominyddir daearyddiaeth Cambodia gan yr Afon Mekong a'r Tonlé Sap ("y llyn dŵr ffres"), ffynhonnell bwysig o bysgod.

Y Khmeriaid yw'r grŵp ethnig mwyaf a Bwdhaeth yw'r brif grefydd. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Phnom Penh. Cambodia yw'r dalaith olynol i'r Ymerodraeth Khmer Hindw a Bwdhaidd, a reolodd y mwyafrif o'r Penrhyn Indo-Tsieiniaidd rhwng y 11eg ganrif a'r 14eg ganrif.

Gan amlaf, disgrifir person o Gambodia fel "Cambodiad" neu "Khmer", er caiff yr ail derm ei ddefnyddio pan yn disgrifio Khmeriaid ethnig yn unig. Mae'r rhan fwyaf o Gambodiaid yn Fwdistiaid Theravada o dras Khmer, er bod gan y wlad niferoedd sylweddol o Fwslemiaid Cham, yn ogystal a Tsieiniaid, Fietnamiaid a llwythi bychan o'r mynyddoedd.

Prif ddiwydiannau Cambodia yw dillad, twristiaeth ac adeiladu. Yn 2007, daeth dros 4 miliwn o dramorwyr i Angkor Wat.[2] Yn 2005, daethpwyd o hyd o gyflenwadau o olew a nwy naturiol yn nuyfroedd tiriogaethol Cambodia, a phan fydd yr echdyniad yn cychwyn yn 2011, gallai'r arian o'r olew effeithio'n sylweddol ar economi'r wlad.[3] Serch hynny, gallai rhan helaeth o unrhyw elw ddiweddu yn nwylo'r gwleidyddion cefnog os na fydd y sefyllfa'n cael ei fonitro'n ofalus.[4]

Daearyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Cambodia

Mae gan Cambodia arwynebedd o 181,035 km sgwâr (69,898 milltir sgwâr), gan rannu ffin o 800 kilomedr (500 mi) gyda Gwlad Thai yn y gogledd a'r gorllewin, ffin o 541 kilomedr (336 mi) gyda Laos yn y gogledd-ddwyrain, a ffin o 1,228 kilomedr (763 mi) gydag Fietnam yn y dwyrain a'r de-ddwyrain. Mae ganddi 443 kilomedr (275 mi) o arfordir ar hyn Gwlff Gwlad Thai. Nodwedd ddaearyddol mwyaf unigryw yw'r paith llynnol, a ffurfiwyd gan lifogydd y Tonle Sap (Y Llyn Mawr), sy'n mesur tua 2,590 kilomedr sgwâr (1,000 milltir sgwâr) yn ystod y tymor sych ac sy'n ehangu i tua 24,605 kilomedr sgwâr (9,500 milltir sgwâr) yn ystod y tymor gwlyb. Mae'r paith poblog hwn, sydd wedi ei neilltuo ar gyfer tyfu reis gwlyb, yng nghefn gwlad Cambodia.

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad (tua 75%) ar uchder o 100 medr (330 troedfedd) neu'n îs uwchlaw lefel y môr, ag eithrio'r Mynyddoedd Cardamom (man uchaf 1,813 m / 5,948 troedfedd) a'u hestyniad yn y de-ddwyrain, y Mynyddoedd Dâmrei ("Mynyddoedd yr Eleffantod") (ystod uchder o 500–1,000 m neu 1,640–3,280 troedfedd), yn ogystal â tharenni serth y Mynyddoedd Dângrêk Mountains (uchder cyfartalog 500 m / 1,640 troedfedd) ar hyd y ffin gydag ardal Isan Gwlad Thai. Man uchaf Cambodia ydy Phnom Aoral, ger Pursat yng nghanol y wlad, sy'n 1,813 medr (5,948 troedfedd).

Hanes[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Cambodia
Byddin Khmer yn mynd i frwydro yn erbyn y Cham.

Amcangyfrifir fod y dystiolaeth gynharaf o wareiddiad datblygiedig yn y Cambodia fodern yn dod ar ffurf clodweithiau crwn artiffisial o'r mileniwn gyntaf CC.[5] Yn ystod y 3edd, 4edd a'r 5ed ganrif, unodd y taleithiau Indianeiddiedig Funan a Chenla i greu'r hyn a elwir yn Cambodia a de-orllewin Fietnam. Tybir gan y mwyafrif o ysgolheigion fod y taleithiau hyn yn rhai Khmer.[6]

Brenhiniaeth gyfansoddiadol ers 1947 yw Cambodia.

Gwleidyddiaeth[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Cambodia

Ym mis Medi 2013 penderfynodd pwyllgor etholiad cyffredinnol i roi buddugoliaeth i Blaid Bobl Cambodiaidd er honiadau o dwyll etholiadol.[7]

Diwylliant[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Cambodia

Economi[golygu]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Cambodia

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) "General Population Census of Cambodia 2008 - Provisional population totals" (PDF). National Institute of Statistics, Ministry of Planning. Medi 3, 2008. Adalwyd ar 22-06-2009.
  2. San Miguel eyes projects in Laos, Cambodia, Myanmar. Adalwyd ar 17-07-2009
  3. Cambodia hopes to start oil production in 2009, Ek Madra PHNOM PENH, (Reuters). 19-01-2007. Adalwyd ar 17-06-2009
  4. Cambodia's oil and mineral wealth sold to corrupt elites: watchdog. Adalwyd ar 17-06-2009
  5. Gerd Albrecht: Circular Earthwork Krek 52/62: Recent Research of the Prehistory of Cambodia. Adalwyd 17-07-2009
  6. Country Studies Handbook; daw'r wybodaeth o Adran Fyddinol yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 25-07-2009
  7. (Saesneg) "Cambodia's ruling CPP party confirmed election winner". BBC News. Medi 8, 2013. Adalwyd ar 12-09-2013.
Flag of Cambodia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Cambodia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato