Iran

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
جمهوری اسلامی ايران
Jomhūrī-ye Eslāmī-ye Īrān

Gweriniaeth Islamaidd Irán
Baner Iran Arfbais Iran
Baner Arfbais
Arwyddair: Esteqlāl, āzādī, jomhūrī-ye eslāmī (Persieg: ("Annibyniaeth a Rhyddfraint Gweriniaeth Islamaidd Iran")
Anthem: Sorud-e Melli-e Iran
Lleoliad Iran
Prifddinas Tehran
Dinas fwyaf Tehran
Iaith / Ieithoedd swyddogol Persieg
Llywodraeth Gweriniaeth Islamaidd
 • Arweinydd Goruchel
 • Arlywydd
Ali Khamenei
Hassan Rouhani
Chwyldro
- Dyddiad

11 Chwefror 1979
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
1,648,195 km² (18fed)
0.7
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2007
 - Cyfrifiad 1996
 - Dwysedd
 
71,208,000 (18fed)
68,467,413
42/km² (158fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$561.1 biliwn (20fed)
$8,300 (71fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2006) 0.736 (99fed) – canolig
Arian cyfred Rial (ريال) (IRR)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC+3.30)
dim yn gymwys (UTC+3.30)
Côd ISO y wlad .ir
Côd ffôn +98

Gwlad yng ngorllewin Asia sy'n cael ei chyfrif yn rhan o'r Dwyrain Canol yw Gweriniaeth Islamaidd Iran (Persieg: جمهوری اسلامی ايران, sy'n cael ei lefaru fel [dʒomhuːɾije eslɒːmije iːɾɒn]), neu Iran. Hyd at 1935 fe'i galwyd yn Persia. Y gwledydd cyfagos yw Pacistan ac Affganistan i'r dwyrain, Turkmenistan i'r gogledd-ddwyrain, Aserbaijan ac Armenia i'r gogledd-orllewin, a Thwrci ac Irac i'r gorllewin. Mae gan y wlad arfordir ar Fôr Caspia yn y gogledd ac ar y Gwlff a Gwlff Oman yn y de. Tehran yw prifddinas y wlad. Ers y Chwyldro Islamaidd yn 1979 mae Iran yn Weriniaeth Islamaidd.

Hanes[golygu]

Prif erthygl: Hanes Iran.

Daearyddiaeth[golygu]

Prif erthygl: Daearyddiaeth Iran.

Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawl anialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoedd Zagros i'r gorllewin, mynyddoedd Alborz a Kopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain. Mynydd Damavand (18,406 troedfedd), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf y wlad.

Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lan Môr Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn.

Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195 km²)a phoblogaeth o dros 70 miliwn.

Pobl[golygu]

Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e. Tyrciaid, Cyrdiaid, Armeniaid ac Arabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel y Bakhtyari.

Iaith a diwylliant[golygu]

Farsi (Perseg diweddar) yw iaith y mwyafrif, ond siaredir ieithoedd llai hefyd, e.e. Cyrdeg yn y gogledd-orllewin. Mae'r Berseg yn iaith hynafol sydd wedi cynhyrchu un o lenyddiaethau mawr y byd, sef llenyddiaeth Berseg. Ymhlith meistri mawr y llenyddiaeth honno, gellid enwi Omar Khayyam a Hafiz (gweler hefyd Rhestr llenorion Perseg hyd 1900).

Yn yr hen Bersia Zoroastriaeth, crefydd y proffwyd Zarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefydd amldduwaidd frodorol gyda Ahura Mazda yn brif dduw ac Anahita yn dduwies boblogaidd. Cymerodd Islam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn Fwslemiaid Shia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y mae dinas sanctaidd Qom sy'n atynnu nifer o bererinion.

Gwleidyddiaeth[golygu]

Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth.[1] Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel.

Llywydd presenol Iran ydy Hassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017.

Economi[golygu]

Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeydd olew pwysicaf yn y byd ac wedi moderneiddio'n gyflym.

Taleithiau a siroedd[golygu]

Rhennir Iran yn 31 talaith (ostān), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (استاندار, ostāndār). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrestān), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehestān) yn eu tro.

Taleithiau Iran

Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaith Hormozgan (#20 isod):

1. Tehran
2. Qom
3. Markazi
4. Qazvin
5. Gīlān
6. Ardabil
7. Zanjan
8. Dwyrain Azarbaijan
9. Gorllewin Azarbaijan
10. Kurdistan
11. Hamadān
12. Kermanshah
13. Īlām
14. Lorestān
15. Khūzestān
16. Chaharmahal a Bakhtiari
17. Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad
18. Bushehr
19. Fārs
20. Hormozgān
21. Sistān a Baluchestān
22. Kermān
23. Yazd
24. Isfahan
25. Semnān
26. Māzandarān
27. Golestān
28. Gogledd Khorasan
29. Razavi Khorasan
30. De Khorasan
31. Alborz

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [1] adalwyd 13 Mai 2008