Socotra

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd lloeren o Socotra
Map o'r ynysoedd
Coeden y Ddraig, un o blanhigion unigryw Socotra

Ynys fach, a'i thair rhagynys, ym Môr Arabia (Cefnfor India) i'r dwyrain o Gwlff Aden oddi ar Horn Affrica, yw Socotra (Arabeg سقطرى ; Suqutra). Mae'n perthyn i'r Yemen, yn Arabia, fel rhan o dalaith Adan, ac yn gorwedd oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Somalia (Somaliland). Gydag arwynebedd o 3600 km², mae'n rhan o gyfandir Affrica yn ddaearegol fel ynys gyfandirol. Mae'n gartref i sawl rhywogaeth unigryw, yn enwedig pryfed cop a phlanhigion.

Mae tua 80,000 o bobl yn byw ar yr ynys gyda 43,000 yn y brifddinas, Hadiboh. Siaradant Socotreg, tafodiaith o'r Arabeg a siaredir yn Yemen.

Roedd Socotra yn rhan o uwchgyfandir Gondwana ond torrodd yn rhydd yn y Pliocene Canol (tua 6 miliwn o flynyddoedd yn ôl), fel rhan o'r un broses ymrwygo a greodd Gwlff Aden hefyd.

Yn ogystal a'r brif ynys Socotra, ceir tair ynys bychain a adnabyddir fel "Y Brodyr" — Abd al Kuri, Samhah, Darsa — ac ambell ynys fechan greigiog arall. Ar y brif ynys ceir ardal arfordirol, yna llwyfandir calchfaen, a mynyddoedd Haghier sy'n codi i 5,000 troedfedd (1,525 m). Hyd Socotra yw tua 80 milltir (130 km). Hinsawdd anaialdir trofannol sydd gan yr ynysoedd, gyda'r monswn yn dod â glaw a gwyntoedd mawr.

Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.