Ynys
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y tirffurf yw hon. Am y pentref yng Ngwynedd gweler Ynys (Llanfihangel-y-traethau).
Darn o dir a amgylchynnir gan ddŵr yw ynys (ac eithrio'r cyfandiroedd). Gall fod yn y môr neu ar y tir. Ynys fwyaf y byd yw Greenland (2.2 miliwn km² / 840,000 milltir sgwar).
Mae ynysoedd cyfandirol, fel Prydain, yn gorwedd ar silffoedd cyfandirol gyda dim ond sianel o ddŵr rhyngddyn nhw â'r tir mawr, fel rheol.
Mae ynysoedd cefnforol orogenig yn tueddu i orwedd lle mae dau blât lithosfferig yn cwrdd. Mae ynysoedd Siapan yn odweddiadol o'r fath yma o ynys.
Yn rhannau dyfnaf y cefnforoedd ceir ynysoedd cefnforol fwlcanig, fel ynysoedd Hawaii. Mae'r rhain yn arbennig o gyffredin yn y Cefnfor Tawel. Mae gan nifer o ynysoedd coral seiliau fwlcanig hefyd.
[golygu] Ynysoedd mwyaf y byd
| Ynys | Môr | Arwynebedd (km²) | Gwlad/Gwledydd | |
|---|---|---|---|---|
| 1. | Yr Ynys Las | Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig | 2.130.800 | Yr Ynys Las, Cenedl ymreolaethol oddi mewn Denmarc |
| 2. | Gini Newydd | Y Cefnfor Tawel | 785.753 | Indonesia/Papua-Gini Newydd |
| 3. | Borneo | Y Cefnfor Tawel | 748.168 | Indonesia/Malaysia/Brunei |
| 4. | Madagasgar | Cefnfor India | 587.042 | Madagasgar |
| 5. | Ynys Baffin | Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig | 507.451 | Canada |
| 6. | Sumatra | Cefnfor India | 443.066 | Indonesia |
| 7. | Honshū | Y Cefnfor Tawel | 230.316 | Japan |
| 8. | Prydain Fawr | Cefnfor yr Iwerydd | 219.331 | Cymru/Lloegr/Yr Alban |
| 9. | Ynys Victoria | Cefnfor yr Arctig | 217.291 | Canada |
| 10. | Ynys Ellesmere | Cefnfor yr Arctig | 196.236 | Canada |
