Cefnfor India

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Cefnforoedd y Ddaear
(Cefnfor y Byd)
y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Cefnfor rhwng Affrica, India, Indonesia ac Awstralia yw Cefnfor India.

Y gwledydd o gwmpas Cefnfor India yw De Affrica, Moçambique, Tanzania, Kenya a Somalia yn Affrica, Yemen, Oman, Pacistan, India, Bangladesh, Myanmar ac Indonesia yn Asia ac Awstralia.

Yr ynysoedd mwyaf yw Madagascar, Comoros, Seychelles, Socotra, ynysoedd Lakshadweep, Maldives, Ynysfor Chagos, Sri Lanka, Ynysoedd Andaman, Ynysoedd Nicobar, Ynysoedd Mantawai, ac Ynysoedd Kerguélen.

Y moroedd sydd yn perthyn i Gefnfor India yw Môr Arabia, Môr Adaman a Môr Timor. Yma hefyd ceir Gwlff Aden, Gwlff Oman a Gwlff Persia.

Maint wyneb y cefnfor yw 74.9 miliwn km², ac mae'n cynnwys 291.9 miliwn km³ o ddŵr. Ei ddyfnder mwyaf yw dyffryn hollt Java gyda dyfnder o 7,258 medr, ond mae dyfnder cyfartolog y cefnfor yn 3,897 medr.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol