Iâr (ddof)

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Iâr (ddof)
Ceiliog a iâr
Ceiliog a iâr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasanidae
Genws: Gallus
Rhywogaeth: G. gallus
Enw deuenwol
Gallus gallus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Gallus gallus domesticus

Aderyn a gedwir ar gyfer ei wyau a chig yw'r iâr ddof (Gallus gallus, weithiau G. gallus domesticus). Credir ei fod wedi ei ddatblygu o ddau rywogaeth o iâr wyllt a geir yn India a De-ddwyrain Asia, Gallus gallus a Gallus sonneratii. Dim ond y fenyw sy'n "iâr" mewn gwirionedd, tra cyfeirir at y gwryw fel "ceiliog", ond cedwir nifer llawer mwy o'r ieir nag o geiliogod.

Mae'r iâr yn un o'r anifeiliaid dof mwyaf niferus, gyda tua 24 biliwn yn cael eu cadw trwy'r byd.