Carbonifferaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfnod blaen Cyfnod hon Cyfnod nesaf
Defonaidd Carbonifferaidd Permaidd
Cyfnodau Daearegol

Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnodau Defonaidd a Phermaidd yw'r Oes Garbonifferaidd. Dechreuodd tua 280 miliwn o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd tua 340 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Enwyd ar ôl yr haenau glo helaeth sy'n nodweddiadol o'r cyfnod hwn.

Ffurfiwyd y glo trwy'r Fforestydd Glo eang gyda phlanhigion mawr a oedd yn tyfu mewn ardaloedd gorslyd.

Boncyff Lepidodendron aculeatum ("cnwpfwsogl anferth")

Yn ystod yr Oes Garbonifferaidd roedd yr uwchgyfandir deheuol, Gondwana, yn gwrthdrawio â'r uwchgyfandir Laurasia, sef America ac Ewrop.

Mae ffosilau nodweddiadol yn cynnwys brachiopodau, cwrelau, crinoidau (lili'r môr), amffibiaid a phlanhigion daear.