Glo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Glo
Map o feusydd glo Cymu a Lloegr gan W. Smith, 1820. Glo: du.

Craig waddod ddu neu frown yw glo. Mae mwy na phumdeg y cant wrth ei bwysau a mwy na saithdeg y cant wrth ei gyfaint yn garbon (hyd yn oed wrth gyfri'r dŵr sydd ynghlwm ynddo). Mae'n bwysig fel tanwydd ffosil er mwyn cynhyrchu gwres. Gellir defnyddio glo i gynhyrchu trydan.

Cynhyrchwyd glo yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd mewn fforestydd mawr gwernydd, y Fforestydd Glo. Trowyd planhigion wedi marw yn fawn ar diroedd gwlyb ac o'i wasgu am filiynau o flynyddoedd trowyd y mawn yn lo. Planhigion pennaf y Fforestydd Glo oedd cnwpfwsoglau, coedredyn a marchrawn - i gyd yn blanhigion llysieuol a dyfent cymaint â choeden y pryd hynny ond sy'n tyfu'n llai o faint heddiw.

Yn anffodus, mae glo yn creu nifer o broblemau i'r amgylchfyd. O ganlyniad i losgi glo mae carbon deuocsid, y prif nwy tŷ gwydr, sylffur deuocsid a llwch yn cael eu gollwng i'r awyr.

Glo Cymru[golygu]

Prif erthygl: Diwydiant glo Cymru.

Yng Nghymru ceir dau faes glo sef Maes Glo Gogledd Cymru, sydd yn ran o'r un maes a Maes Glo Sir Gaerhirfryn yn Lloegr, a Maes Glo De Cymru, maes glo mwyaf Prydain, yn ymestyn o Sir Benfro, bron i'r ffîn â Lloegr. Ffurfiwyd y meysydd glo pan oedd Cymru yn ran o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd.

Cloddir glo Cymru ers canrifoedd, ond daeth yn danwydd pwysig iawn adeg y Chwyldro Diwydiannol. O ganlyniad datblygodd llawer o byllau glo a ffatrïoedd yn Ne Cymru gan ddwyn newid ysgubol i fywyd a diwylliant yr ardal honno. Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd tua trideg y cant o weithwyr Cymru yn gweithio yn y diwydiant glo neu dur, ond erbyn heddiw mae llawer o'r pyllau glo a'r ffatrïoedd wedi cau. Yn sgil y crebachu ar ddiwydiant trwm cafwyd streiciau a phroblemau cymdeithasol yn Ne Cymru yn y 1970au a 1980au.

Mae Blaenafon wedi ei restru fel Safle Treftadaeth y Byd gan yr UNESCO achos ei fod yn dref diwydiant glo a haearn pwysig. Yn y dref, mae'n bosib gweld pwll glo yn Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Glofa Pwll Mawr.

Cysylltiadau allanol[golygu]

Gwybodaeth am lo a'r Cyfnod Carbonifferaidd

Gweler hefyd[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am glo
yn Wiciadur.