Maes glo Gogledd-ddwyrain Cymru
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Maes Glo Gogledd Cymru)
Mae Maes Glo Gogledd-ddwyrain Cymru yn ymestyn o Groesoswallt yn y de, i Brestatyn yn y gogledd, ac yn cynnwys rhan o Swydd Amwythig, yr hen Sir Ddinbych a'r hen Sir y Fflint.
Plwyfi Y Waun, Rhiwabon a Wrecsam oedd canolfanau mwyngloddio pwysicaf y maes glo yn yr hen Sir Ddinbych. Y lofa fwyaf adnabyddus oedd Y Parlwr Du yn yr hen sir Fflint, oedd yn un o'r pyllau dwfn olaf i gau yng Nghymru.
Bu nifer o drychinebau yn y diwydiant glo yma. Y mwyaf oedd trychineb Glofa Gresffordd, a ddigwyddodd ar 22 Medi, 1934, pan gafodd 265 o bobl eu lladd trwy ffrwydrad nwy yn y pwll.