Safle Treftadaeth y Byd
Safle Treftadaeth y Byd yw safle penodol megis coed, cadwyn mynyddoedd, llyn, adeilad, grŵp o adeiladau, tref neu ddinas sydd wedi'i enwebu a'i gadarnhau ar restr a gedwir gan Raglen Treftadaeth y Byd. Cedwir y rhestr hon gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO.
Nod y rhaglen yw rhestri, enwi a diogelu safleoedd o bwysigrwydd diwylliannol neu naturol arbennig i dreftadaeth ddynol gyffredin. O dan amodau arbennig, gall safleoedd ar y rhestr dderbyn arian gan Gronfa Treftadaeth y Byd. Sefydlwyd y rhaglen ar 16 Tachwedd 1972, ac, erbyn 2006, roedd 830 o safleoedd ar y rhestr: 644 o safleodd diwylliannol, 162 o safleodd naturiol and 24 cymysg.
Mae tair Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru: Tirlun Diwydiannol Blaenafon, Cestyll a muriau trefi Harlech, Biwmares, Caernarfon a Chonwy a Dyfrbont Pont-Cysyllte.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Affrica
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn yr Almaen
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Ffrainc
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd ym Mhrydain
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn Sbaen
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn y Swistir
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn yr Eidal
- Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Ngwlad Groeg
- Safleoedd Treftadaeth y Byd yn India
- Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn America Ladin a'r Caribî