India

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
भारत गणराज्य
Bhārat Gaṇarājya
Republic of India

Gweriniaeth yr India
Baner India Arwyddlun India
Baner Arwyddlun
Arwyddair: Satyameva Jayate (Sanskrit)
Devanāgarī: सत्यमेव जयते
(Cymraeg: "Gwir yn Unig Sydd yn Ennill")
Anthem: Jana Gana Mana
Lleoliad India
Prifddinas Delhi Newydd
Dinas fwyaf Mumbai
Iaith / Ieithoedd swyddogol Hindi, Sanscrit, Saesneg, Assameg, Bengaleg, Bodo, Dogri, Gujarati, Kannada, Kashmiri, Konkani, Malayalam, Maithili, Meitei, Marathi, Nepaleg, Oriya, Punjabi, Santali, Sindhi, Tamileg, Telugu ac Wrdw
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Pranab Mukherjee
Manmohan Singh
Annibyniaeth
 • Gwladwriaeth
 • Gweriniaeth
Oddiwrth y Deyrnas Unedig
15 Awst 1947
26 Ionawr 1950
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
3,287,590 km² (7fed)
9.56
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2013
 - Cyfrifiad 2011
 - Dwysedd
 
1,220,800,359 (2il)
1,210,193,422
371/km² (31fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$3.633 triliwn (4fed)
$3,344 (122fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.602 (127fed) – canolig
Arian cyfred Rupee (INR)
Cylchfa amser
 - Haf
IST (UTC+5:30)
(UTC+5:30)
Côd ISO y wlad .in
Côd ffôn +91

Gwlad yn Ne Asia yw Gweriniaeth yr India neu India. Mae hi'n ffinio â Phacistan i'r gorllewin (gan gynnwys rhanbarth Kashmir), Tibet (Tsieina), Nepal a Bhwtan i'r gogledd, a Bangladesh a Myanmar i'r dwyrain. Mae ynys Sri Lanka yn gorwedd dros y dŵr o Damil Nadu, penrhyn deheuol India. Er bod poblogaeth Tsieina'n fwy, yr India yw gwlad ddemocrataidd fwya'r byd. Mae mwy na biliwn o bobl yn byw yn y wlad a mae'n nhw'n siarad mwy nag 800 o ieithoedd. Delhi Newydd yw prifddinas y wlad.

Daearyddiaeth[golygu]

Mae India yn wlad anferth sy'n ymestyn o'r Himalaya yn y gogledd i draethau trofannol Cefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae taleithiau Rajasthan a Gujarat yn anial iawn tra bod y taleithiau dwyreiniol a'r de eithaf yn nhiriogaethau is-drofannol. Mae gan y wlad arfordir hir iawn ar Fôr Arabia yn y gorllewin, Cefnfor India yn y de a Bae Bengal yn y dwyrain.

Hanes[golygu]

Prif erthygl Hanes India

Mae hanes India yn dechrau gyda dechreuad sefydliadau parhaol tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn yr ardal o amgylch Afon Indus, datblygodd rhain i greu Gwareiddiad Dyffryn Indus tua 3300 CC.; un o'r gwareiddiadau cynharaf yn hanes dynoliaeth. Dilynwyd y cyfnod yma gan y Cyfnod Fedig, pan osodwyd seiliau crefydd Hindwaeth. O tua 550 CC. sefydlwyd nifer o deyrnasoedd a elwid y Mahajanapadas ar draws y wlad.

Yn y 3edd ganrif CC, roedd India a rhannau eraill o dde Asia yn rhan o Ymerodraeth Maurya dan Ashoka Fawr. O tua 180 CC bu nifer o ymosodiadau ac ymfudiadau o'r gogledd. O'r 3edd ganrif OC sefydlwyd Ymerodraeth y Gupta.

O'r 12fed ganrif ymlaen, daeth gogledd India gan ddylanwad rheolwyr Islamaidd, yn wreiddiol o Ganolbarth Asia; yn gyntaf Swltaniaeth Delhi, ac yn ddiweddarach Ymerodraeth y Mughal. Yn ne India, roedd nifer o deyrnasoedd brodorol, megis Ymerodraeth Vijayanagara. Ganychodd pwer y Mughal yn y 17ed a'r 18fed ganrif, a daeth Ymerodraeth Maratha yn bwerus. Yn ystod y 18fed ganrif, dechreuodd nifer o wledydd Ewropeaidd sefydlu tiriogaethau, ac erbyn 1856, roedd y rhan fwyaf o India yng ngafael y British East India Company.

Y flwyddyn wedyn bu gwrthryfel ar raddfa fawr, Gwrthryfel India 1857. Cafodd y gwrthryfelwyr gryn lwyddiant at y cychwyn, ond yn y diwedd gorchfygwyd hwy gan y fyddin Brydeinig. Daeth India'n rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.

Dechreuodd mudiad cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, ac yn y 1920au a'r 1930au bu cyfres o brotestiadau di-drais dan arweniad Mahatma Gandhi. Ar 15 Awst 1947, daeth India yn wlad annibynnol, ond daeth rhan o'i thiriogaeth yn wlad Pacistan. Dair blynedd yn ddiweddarach, ar 26 Ionawr 1950, daeth India yn weriniaeth.

Ers hynny, bu rhyfel a China yn 1962 ynghylch y ffîn yn y gogledd-ddwyrain, a bu tri rhyfel yn erbyn Pacistan, yn 1947, 1965 a 1971. Yn 1974, arbiorfodd India fom atomig, gydag arbrofion pellach yn 1998. Ers newidiadau economaidd yn 1991, mae economi India wedi tyfu'n gyflym, ac o ganlyniad mae dylanwad rhyngwladol y wlad wedi cynyddu.

Iaith a diwylliant[golygu]

Mae mwy nag 800 o ieithoedd yn cael eu siarad yn India (gweler Rhestr o ieithoedd India), rhai ohonynt gyda rhai cannoedd o filynau o siaradwyr ac eraill gyda llai na 100. Mae'r ieithoedd mwyaf yn cynnwys Hindi (337 miliwn / 40.0%), Bengaleg (69 miliwn / 8.30%), Telugu (69 miliwn / 7.87%), Marathi (68 miliwn / 7.45%), Tamileg (66 miliwn / 6.32%), Wrdw (60 miliwn / 5.18%), Gujarati (46 miliwn / 4.85%), Kannada (35 miliwn / 3.91%), Malayalam (35 miliwn / 3.62%), Oriya (32 miliwn / 3.35%) a Punjabi (23 miliwn / 2.79%). Mae gan India sawl llenyddiaeth felly. Mae'n gartref yn ogystal i lenyddiaeth Sanscrit, un o'r hynaf yn y byd.

Hindŵaeth yw prif grefydd y wlad, ond ceir yn ogystal lleiafrifoedd sylweddol o ddilynwyr Siciaeth, Jainiaeth ac Islam. Mewn rhai taleithiau, yn arbennig yn Goa a'r Gogledd-ddwyrain (e.e. Khasia), ceir canran sylweddol o Gristnogion. India yw mamwlad Bwdhiaeth ond ni cheir llawer o Fwdyddion yno heddiw, ac eithrio yn Ladakh a Zanskar, a'r ffoaduriaid o Dibet mewn rhannau eraill o'r Himalaya Indiaid.

Llywodraeth[golygu]

Mae India'n wlad ddemocrataidd a reolir gan Senedd India. Rhennir y senedd yn ddau siambr, sef y Lok Sabha etholedig sy'n cynrychioli'r bobl yn uniongyrchol (fel Tŷ'r Cyffredin) a'r Rajya Sabha sy'n cynrychioli'r taleithiau. Mae'r blaid gyda'r mwyafrif o seddau yn y Lok Sabha yn ffurfio'r llywodraeth ac yn dewis prif weinidog. Mae gan India arlywydd yn ogystal. (Am lywodraeth y taleithiau a'r rhanbarthau, gweler isod).

Dinasoedd[golygu]

Dinasoedd yn ôl poblogaeth
Rhif Dinas Talaith Poblogaeth Rhif Dinas Talaith Poblogaeth
gweld  sgwrs  golygu

Mumbai
Mumbai
Delhi
Delhi

1 Mumbai Maharashtra 13,662,885 11 Jaipur Rajasthan 2,997,114
2 Delhi Delhi 11,954,217 12 Lucknow Uttar Pradesh 2,621,063
3 Bangalore Karnataka 5,180,533 13 Nagpur Maharashtra 2,359,331
4 Kolkata Gorllewin Bengal 5,021,458 14 Indore Madhya Pradesh 1,768,303
5 Chennai Tamil Nadu 4,562,843 15 Patna Bihar 1,753,543
6 Hyderabad Andhra Pradesh 3,980,938 16 Bhopal Madhya Pradesh 1,712,355
7 Ahmedabad Gujarat 3,867,336 17 Thane Maharashtra 1,673,465
8 Pune Maharashtra 3,230,322 18 Ludhiana Punjab 1,662,325
9 Surat Gujarat 3,124,249 19 Agra Uttar Pradesh 1,590,073
10 Kanpur Uttar Pradesh 3,067,663 20 Vadodara Gujarat 1,487,956
amcangyfrif 2008 [1]

Unedau gweinyddol[golygu]

Rhanbarthau India

Rhennir India yn 29 talaith a chwech tiriogaethau undebol a reolir gan y llywodraeth ffederal. Mae gan bob talaith, ynghyd â thiriogaeth undebol Pondicherry, eu llywodraethau etholedig eu hunain. Mae'r pedair tiriogaeth undebol eraill yn cael eu rheoli gan weinyddwyr a apwyntir gan y llywodraeth ganolog. Yn ogystal, rhennir pob talaith a thiriogaeth undebol yn rhanbarthau (District). Weithiau, yn achos taleithiau mawr, unir rhai rhanbarthau i ffurfio division. Rhennir pob rhanbarth yn ei thro yn sawl Tehsil.


Styago la Indiyako, prinjardo andar 22 Yuli, 1947.
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJammu a KashmirJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliTiriogaeth Genedlaethol DelhiDaman a DiuLakshadweepPuducherry (Pondicherry)

Cyfeiriadau[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am India
yn Wiciadur.