Biwmares
Cyfesurynnau: 53°16′N 4°05′W / 53.27°N 4.09°W
| Biwmares | |
|
|
|
| Poblogaeth | < 2,040[1] |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH605765 |
| Prif ardal | Ynys Môn |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | BIWMARES |
| Rhanbarth cod post | LL58 |
| Cod deialu | +01248 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Ynys Môn |
| Cynulliad Cymru | Ynys Môn |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ynys Môn | |
Mae Biwmares (Saesneg: Beaumaris) yn dref hanesyddol yn ne-ddwyrain Ynys Môn, ar lan Afon Menai. Enw Ffrangeg Normanaidd sydd i'r dref a'i ystyr yw Morfa Deg.
Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,892 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 748 (sef 39.5%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.[2] Roedd 448 yn ddi-waith, sef 45.7% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.
Cynnwys |
Yr enw [golygu]
Cyfuniad o ddau air Ffrangeg Normanaidd yw'r enw a roddwyd ar y dref newydd gan y Saeson, sef Beaumarais (beau 'teg' + marais 'morfa neu gorsdir'). Yr enghraifft gynharaf o'r enw Cymraeg am y dref yw 'Y Bew Mareis', a gofnodir ym Mrut y Tywysogion ar ddiwedd y 13eg ganrif.[3] Mae iethegwyr yn cydnabod fod hyn yn cynrychioli'r ynganiad Ffrangeg Normanaidd gwreiddiol ('Bô-maré' fyddai'r ynganiad Ffrangeg heddiw). Roedd beirdd yr Oesoedd Canol, fel Lewys Môn a Tudur Aled yn aml yn defnyddio'r ffurf 'Duwmares'.[4] Erbyn ganol y 18fed ganrif cawn lenorion fel Lewis Morris yn defnyddio'r ffurfiau 'Bewmares' - ceir enghraifft o 'Bewmares' mewn cywydd i Thomas Bulkeley a ysgrifennodd yn 1753[5] - a 'Biwmares'. Erbyn heddiw mae Biwmares wedi'i hen sefydlu fel y sillafiad Cymraeg swyddogol. Ar lafar yn lleol ceir y ffurf 'Bliwmaras' neu 'Y Bliw'.
Hanes [golygu]
Sefydlwyd Biwmares ar safle hen dref Gymreig Llan-faes. Wedi concwest 1282-83 gan Edward I o Loegr, bu cychwyn nifer o brosiectau gan y brenin i roi diwedd ar annibyniaeth y Cymry. Un o'r prosiectau hyn oedd adeiladu Castell Biwmares, a adeiladwyd yn 1295, a'r dref ei hun. Nid oedd yn gastell hawdd i'w gipio gan fod modd derbyn bwyd ac arfau o'r môr. Mae'n enghraifft o gastell consentrig, sef o gastell o fewn castell.
Mae arch garreg Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, â'i delw arni i'w gweld yn eglwys Biwmares. Cafodd ei symud yno o fynachlog Llan-faes lle y'i claddwyd.
Symudwyd trigolion Llan-faes i bentref newydd yng ngorllewin yr ynys yn y "New Borough" a ddaeth i gael ei alw yn Niwbwrch yn Gymraeg. Am gyfnod wedi hyn, Saeson yn unig oedd yn cael trigo tu fewn i waliau'r dref. Gydag adeiladu'r castell daeth Biwmares i fod yn brif dref y Sir Fôn newydd a sefydlwyd yn sgîl y goresgyniad. Yn yr ail ganrif ar bymtheg agorwyd y Llys Sirol yno, a bu mewn defnydd hyd y 1970au.
Yn 1829 adeiladwyd carchar wedi ei gynllunio gan Joseph Hansom ym Miwmares. Yn ôl safonau'r dydd roedd y carchar hwn yn beth gyfforddus. Roedd toiled a golau nwy ym mhob cell, sydd yn hynod o fodern, gan ystyried fod carcharorion Strangeways ym Manceinion yn dal i ddefnyddio bwced yn y 1970au.
Dienyddwyd dau garcharor yn y carchar rhwng 1829 a'r 1870au pan gaewyd y carchar a'i newid i fod yn orsaf heddlu. Ym 1830 dienyddwyd William Owen am ladd ei wraig, ac yn ôl yr hanes aeth i'r crogbren dan gicio a strancio ac fe'i claddwyd y tu fewn i furiau'r carchar. Ni ddienyddwyd neb wedyn tan 1862 pan ddienyddwyd Richard Rowlands (Dic Rolant) am ladd ei dad yng nghyfraith. Bu cryn ddadlau am yr achos ac mae nifer o bobl hyd heddiw yn credu fod Rolant yn ddi-euog. Mae chwedl amdano sy'n dweud ei fod wedi addo ar y crogbren y byddai cloc yr eglwys, dros y ffordd i'r wal a oedd yn dal y crogbren, yn dweud yr amser anghywir.
Biwmares heddiw [golygu]
Nid oes swyddogaeth weinyddol mor bwysig gan Fiwmares erbyn hyn - mae cyngor yr ynys wedi symud i Langefni. Er hyn, mae Biwmares yn dal i fod yn un o brif benteithiau twristiaeth Môn, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn gyrchfan ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn.
Yn Eglwys Fair ym Miwmares y mae beddrod y Dywysoges Siwan, ferch y brenin John o Loegr a gwraig Llywelyn Fawr, i'w weld. Cafodd ei symud yno o adfeilion mynachlog Llan-faes.
Mae yna nifer o dai bwyta o safon, tafarndai clyd ac ambell i siop sy'n gwerthu gemwaith a hen bethau. Mae'r ysgol yn un o rai mwyaf y sir.
Mae'r A545 yn cysylltu'r dref â Phorthaethwy.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Enwogion [golygu]
- Richard Llwyd (1752-1835), "The Bard of Snowdon", bardd a hynafiaethydd.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ National Statistics information on Beaumaris ward (which includes Beaumaris), 2001 census
- ↑ Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
- ↑ Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon (Peniarth MS. 20) (Caerdydd, 1941), tud. 228b.
- ↑ Gweler er enghraifft: Eurys Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), I.17.
- ↑ Diddanwch Teuluaidd (Llundain, 1763), tud. 244.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd [golygu]
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele