Caernarfon
Oddi ar Wicipedia
| Caernarfon Gwynedd |
|
Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw "Caer Seiont yn Arfon" neu "Caer Saint yn Arfon", a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.
Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar ôl iddo feddianu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymosododd rhyfelwyr Owain Glyndŵr ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio.
Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28.
Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.
[golygu] Cysylltiadau Cludiant
Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis.
[golygu] Y Diwydiant Teledu
Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er fod nifer y dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod â swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmnïau canlynol yng Nghaernarfon:
Mae gan y cwmnïau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref:
Mae'r dref hefyd yn gartref i cymhlyg stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) yn cael ei ddarlledu yn fyw ddwywaith yr wythnos a rhaglen bêl-droed Sgorio yn cael ei darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo).
[golygu] Clybiau Chwaraeon
Mae C.P.D. Tref Caernarfon yn chwarae yn Uwch Gynghrair Principality. Mae'r clybiau lleol eraill, Caernarfon Wanderers a Caernarfon Borough[1] yn chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae Tîm Pêl-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Nghyngrair y Northern Combination.
Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r tîm merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!.
Mae Clwb Rygbi Caernarfon[2] yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-dîm y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.
Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad.
Clybiau Chwaraeon Eraill:
- Clwb Hwylio Caernarfon
- Clwb Golff Caernarfon
- Clwb Nofio Caernarfon
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1886
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1894
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1935
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1940 (Eisteddfod Radio)
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1943
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979
[golygu] Gefeilldref
- Landerne, tref yn Llydaw (Landerneau yn Ffrangeg).
[golygu] Gweler hefyd
- Arwisgiad Tywysog Cymru
- Caernarfon (etholaeth Cynulliad)
- Caernarfon (etholaeth seneddol)
- Castell Caernarfon
- C.P.D. Tref Caernarfon
- Segontium
[golygu] Ffynonellau
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Gellilydan · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhyndeudraeth · Pentir · Pentrefelin · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Pwllheli · Rachub · Rhiw · Rhosgadfan · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd-Ddu · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Talybont, Abermaw · Talybont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr



