Pwllheli

Oddi ar Wicipedia
Pwllheli
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,076 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd545.54 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.88°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000098 Edit this on Wikidata
Cod OSSH374350 Edit this on Wikidata
Cod postLL53 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Tref hynafol a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Pwllheli. Saif ar arfordir deheuol Llŷn.

Mae'r tref yn dyddio'n ôl i'r canol oesoedd. Bu'r porthladd yn bwysig i'r dref ar hyd y canrifoedd. Roedd yno ddiwydiant adeiladu llongau llewyrchus yn y 19g. Tyfodd i fod yn dref marchnad i Lŷn gyfan, fel y tystia'r safle a adwaenir fel 'Y Maes' lle y cynhelid y ffeiriau, a 'Stryd Moch'. Mae Caerdydd 178.4 km i ffwrdd o Pwllheli ac mae Llundain yn 331.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 41.1 km i ffwrdd.

Mae Pwllheli yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, gyda tua 80% o'r boblogaeth yn medru'r iaith. Yn yr oedrannau 10-14 mae'r canran uchaf o bobol sydd yn gwybod yr iaith, sef 94%.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Hen fap (1834) o Bwllheli)
Y Maes; 1958; llun gan Geoff Charles

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r prif ffyrdd A497 a'r A499 yn rhedeg trwy'r dref. Mae'r A497 yn rhedeg yn orllewinol o Borthmadog i Bwllheli ac yna i'r gogledd at Nefyn, tra bod yr A499 yn brif ffordd Benrhyn Llŷn.

Terfynfa'r Rheilffordd Arfordir Cambria yw Gorsaf reilffordd Pwllheli, sydd yn rhedeg i Fachynlleth gyda gwasanaethau yn parhau i Amwythig a Birmingham. Mae'r orsaf yn cael ei weithredu a'i weini gan Trafnidiaeth Cymru. Daeth y rheilffordd i Bwllheli yn 1867 gan ei chysylltu ag Aberystwyth a Chaernarfon. Ger Pwllheli, ym mhlwyf Penrhos, mae Penyberth, safle'r ysgol fomio a losgwyd mewn protest yn erbyn militariaeth gan Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine yn 1936.

Ceir hefyd safle tacsis wedi'i leoli tu allan i'r fynedfa i'r orsaf reilffordd.

Mae gwasanaethau bws yn y dref yn cael eu gweithredu gan Fysiau Caelloi a Nefyn Coaches a gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r dref yn ogystal â gweddill yr ardal ehangach Penrhyn Llŷn. Mae Clynnog & Trefor yn rhedeg gwasanaethau i Gaernarfon lle gall cysylltiadau gael eu gwneud i Fangor a'r ardal ehangach Gogledd Cymru. Mae gorsaf fysiau Pwllheli wedi ei leoli yng nghanol y dref, yn Y Maes.

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Mae tref Pwllheli yn gartref i dîm pêl-droed C.P.D. Pwllheli a thîm rygbi'r undeb, Clwb Rygbi Pwllheli.

Olion hynafol[golygu | golygu cod]

Ceir Clwstwr cytiau caeedig Clogwyn Bach gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pwllheli (pob oed) (4,076)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pwllheli) (3,092)
  
78.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pwllheli) (3161)
  
77.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pwllheli) (750)
  
39.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ym 1925 a 1955. Am wybodaeth bellach gweler:

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]