Rhiwlas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhiwlas gyda bryniau Llanberis yn y cefndir.

Pentref yng Ngwynedd yw Rhiwlas a leolir tua 4 milltir i'r de o Fangor yn ardal Arfon.

Y pentrefi agosaf yw Pentir a Rhyd-y-groes i'r gogledd, Deiniolen i'r de, Waun a Penisa'r Waun i'r de-orllewin, a Llanddeiniolen i'r gorllewin. I'r de a'r dwyrain o'r pentref cyfyd rhagfryniau Eryri yn cynnwys Moel-y-ci (410m) a Moel Rhiwen (391m).

Ceir bryngaer gynhanesyddol a elwir yn 'Castell' hanner milltir i'r dwyrain o Riwlas ger y B4547.


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato