Bryngaer

Oddi ar Wicipedia
Bryngaer Dunadd yn Argyll, Yr Alban.

Caer a adeiladwyd ar ben bryn fel adeilad amddiffynnol yw bryngaer. Mae ei ffurf yn dilyn ffurf y bryn a fel arfer mae rhagfur a ffos o'i gwmpas. Codwyd bryngaerau mewn cyfnodau wahanol ac i bwrpas wahanol (nid yn unig am amddiffyn, ond i gadw anifeiliaid, hefyd), ond yng Nghymru adeiladwyd mwyafrif ohonynt yn yr Oes Haearn, er enghraifft Bryngaer Llwyn Bryn-dinas ger Llangedwyn, y Breiddin, Moel y Gaer, Llandysilio a'r mwyaf drwy ogledd-orllewin Ewrop, sef Tre'r Ceiri. Mae bryngaerau ledled Ewrop a chyfandiroedd eraill hefyd, er enghraifft codwyd rhai yn Seland Newydd gan y Maori.

Bryngaerau Canolbarth Ewrop[golygu | golygu cod]

Mae bryngaerau hynaf canolbarth Ewrop yn dyddio o'r oes Neolithig, ond mae'r mwyafrif yn dyddio o gyfnod y diwylliant Urnfield yn Oes yr Efydd) a'r diwylliant Hallstatt yn Oes yr Haearn, ond adeiladwyd rhai ar ôl goruchafiaeth yr Ymerodraeth Rufeinig, hefyd. Roedd Iŵl Cesar yn crybwyll y bryngaerau Celtaidd a welodd yn ystod ei ymgyrchoedd o dan yr enw oppida.

Bryngaerau Prydain ac Iwerddon[golygu | golygu cod]

Cartrefi a gwersyllfeydd milwrol o Oes yr Haearn cyn y goresgyniad Rhufeinig yw bryngaerau Prydain. Defnyddiwyd rhai eto yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur y bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43. Yn yr ardaloedd lle na chafwyd dylanwad Rhufeinig (e.e. yn Iwerddon a gogledd yr Alban) adeiladid bryngaerau am ganrifoedd ar ôl hynny. Defnyddiodd yr Eingl-Sacsoniaid rhai o'r hen fryngaerau yn Lloegr yn ystod goresgyniad y Llychlynwyr.

Cymru[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: Rhestr o fryngaerau Cymru a Rhestr o fryngaerau Cymru yn ôl eu maint.

Mae bron i 600 o fryngaerau yng Nghymru yn amrywio'n fawr o ran maint o'r caerau bychain yn ne Cymru i gaerau aferthol gororau gogledd Cymru. Roeddent yn cael eu datblygu gan y brodorion o amser eu codi (sy'n amrywio hefyd) a thros y blynyddoedd ychwanegwyd tiroedd ac amddiffynfeydd atynt. Mae rhai'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd diweddar gyda'r rhan fwyaf o fryngaerau Cymru'n perthyn i'r cyfnod 500-100 CC, sef yr Oes Haearn.

Roedd llawer ohonynt e.e. Bryngaer Dinorben (Abergele) yn dal i gael eu defnyddio yn y cyfnod Rhufeinig.

Lloegr[golygu | golygu cod]

Ceir dros 1,350 bryngaer yn Lloegr[1] gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn y de a'r dwyrain, yn enwedig yng Nghernyw a Dyfnaint lle ceir 285 ohonynt. Er i rai ohonyn nhw gael eu cloddio yn ystod yr Oes Efydd, yn Oes yr Haearn y codwyd y rhan fwyaf ohonynt h.y. am yr wyth ganrif cyn dyfodiad y Rhufeiniaid. Un o'r mwyaf yw Maiden Castle (Dorset) sy'n 44 erw (18 ha)[2]

Iwerddon[golygu | golygu cod]

Caer Navan, Swydd Armagh, Iwerddon.

Ceir 40 o fryngaerau yn Iwerddon, gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 5 - 10 erw.

Bryngaerau yn Ffrainc[golygu | golygu cod]

Mae Bibracte (Mont Beuvray) a Mont St. Odile (Mur Païen) yn fryngaerau enwog yn Ffrainc ac mae gwarchae bryngaer Alesia lle cafodd Vercingetorix ei orchfygu gan Iŵl Cesar yn enwog iawn hefyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Forde-Johnston (1976), tud. 1.
  2. "Gwefan British History Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd 2010-09-10.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]