Fairbourne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°41′49″N 4°03′09″W / 52.69689°N 4.05241°W / 52.69689; -4.05241

Fairbourne
Fairbourne Village.jpg
Pentref Fairbourne
Fairbourne is located in Gwynedd
Fairbourne

Fairbourne Gwynedd
Cyfeirnod grid yr AO SH614130
Sir Gwynedd
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost DOLGELLAU
Rhanbarth cod post LL38
Cod deialu 01341
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Meirionnydd Nant Conwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd

Pentref yn ne Gwynedd yw Fairbourne. Yn anarferol iawn i bentrefi Gwynedd, nid oes enw Cymraeg arno. Defnyddir Friog weithiau fel enw Cymraeg Fairbourne, ond mewn gwirionedd mae Friog yn bentref ar wahân. Gelwid yr ardal yn "Morfa Henddol" cyn adeiladu'r pentref, a chredir fod yr enw Rowen wedi ei ddefnyddio am y pentref ar un adeg.

Saif Fairbourne yng nghymuned Arthog ar bwys y briffordd A493 rhwng Dolgellau a Thywyn. Mae ar ochr ddeheuol aber Afon Mawddach, gyferbyn a thref Abermaw. Sefydlwyd Fairbourne gan Arthur McDougall, o'r teulu oedd yn cynhyrchu blawd McDougall's, fel pentref gwyliau glan-y-môr.

Ceir olion yr Ail Ryfel Byd yn y tywynni traeth, amddiffyniadau i rwystro tanciau, a elwir yn lleol yn "Ddannedd y Draig".

Trafnidiaeth[golygu]

Rheilffordd y Friog

Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd Glannau Cymru ac mae Rheilffordd y Friog yn arwain i'r de i gyfeiriad Tywyn. Gellir cael fferi dros yr afon i'r Bermo (Abermaw).

Oriel luniau[golygu]