Aberangell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bythynnod yn Aberangell.

Pentref ger priffordd yr A470 rhwng Mallwyd a Chemaes yn ne Gwynedd yw Aberangell. Saif lle mae Afon Angell yn llifo i mewn i Afon Dyfi. Cyfeirnod OS: SH 84612 10067.

Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd Mawddwy. Roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, ac yr oedd Tramffordd Hendre Ddu yn dod â llechi o Chwarel Hendre Ddu i'r orsaf yma i'w llwytho.

Roedd poblogaeth o 935 yn 1841, disgynodd y boblogaeth rhwng 1881 ac 1891 o 946 i 729.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Dyfi Valley Demographics.