Deiniolen (pentref)
Mae Deiniolen yn bentref yng ngogledd Gwynedd, rhwng Mynydd Llandygái a Llanberis ac wrth droed Elidir Fawr. Gerllaw iddo mae dau bentref llai, Dinorwig a Chlwt-y-Bont.
Tyfodd y pentref o ganlyniad i dŵf Chwarel Dinorwig, sydd ychydig i’r de. Agorwyd Capel Ebenezer yn 1823 a Capel Cefn y Waen yn1825. Yn 1857 adeiladwyd Eglwys Llandinorwig ar gyrion y pentref, gydag arian gan deulu Assheton-Smith o’r Faenol, perchenogion Chwarel Dinorwig.
Bu trychineb yn yr ardal yn 1899, pan aeth trip Ysgol Sul Eglwys Llandinorwig i Bwllheli a boddwyd deuddeg o’r aelodau, naw ohonynt yn blant, pan ddymchwelodd cwch yn y bae yno.
Caewyd Chwarel Dinorwig yn 1967, ac effeithiodd hyn yn fawr ar economi’r ardal. Erbyn hyn tair siop sydd yn Neiniolen, Y Post, Crefftau Elidir a'r Co-op. Mae Antur Waunfawr yn cynnal caffi yn y pentref, ac mae dau dafarn yno. Rhed wasanaethau bws rheolaidd oddi yno i Gaernarfon a Bangor. Mae ysgol gynradd yn y pentref o hyd, sef Ysgol Gwaun Gynfi.
Mae Seindorf Arian Deiniolen yn adnabyddus iawn yn yr ardal, a chynhelir eisteddfod flynyddol.
Enwogion[golygu]
- Gwenlyn Parry (1932-1991), dramodydd
Llyfryddiaeth[golygu]
- Idris Thomas Pel goch ar y dŵr: hanes trychineb Ysgol Sul Dinorwig (Gwasg Carreg Gwalch, 1999) ISBN 0-86381-586-3
Dolenni allanol[golygu]
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr