Prenteg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Prenteg

Pentref bychan yng Ngwynedd yw Prenteg a leolir ar y ffordd A498 tua 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o Dremadog. Mae'n rhan o gymuned Dolbenmaen.

Gorwedd y pentref ar groesffordd ar lan orllewinol Afon Glaslyn. Yn ogystal â'r A498 mae ffordd wledig yn ei gysylltu â Golan i'r gorllewin ac mae'r B4410 yn croesi'r afon Glaslyn i'w gysylltu â Garreg a Maentwrog.

I'r de o'r pentref ceir Y Traeth Mawr. I'r gogledd mae'r bryniau yn codi i gyfeiriad Moel Hebog.

Yno ganwyd a magwyd y diddanwr a chwaraewr rygbi Ioan Gwilym.


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato