Tremadog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tremadog
Gwynedd
CymruGwynedd.png
Smotyn Coch.gif
Tremadog gyda bryniau Eryri.
Sgwar Tremadog.

Pentref ar gyrion Porthmadog, Gwynedd, yw Tremadog.

Hanes[golygu]

Yn anarferol, mae cynllun pendant i'r pentref: fe'i sefydlwyd gan William Madocks, wedi iddo brynu'r tir ym 1798. Cwblhawyd canol y pentref ym 1811, ac ychydig iawn mae o wedi newid ers hynny. Mae sawl adeilad o ddiddordeb pensaerniol yn y pentref, gan gynnwys Capel Peniel, a adeiladwyd ar batrwm teml Roegaidd. Bwriad Maddocks oedd i Dremadog fod yn dref lawer iawn yn fwy, ac yn ganolbwynt masnachol. Bwriadodd hefyd i'r dref fod yn fan aros i gerbydau oedd ar eu ffordd i Borth Dinllaen i groesi i Iwerddon. Ond nid felly y bu, gan i Gaergybi gymryd lle Porth Dinllaen yn brif borthladd. Wedi adeiladu'r Cob a llenwi'r Traeth Mawr, fe dyfodd Porthmadog yn hytrach na Thremadog, a phentref cymharol fach yw Tremadog hyd heddiw.

Ysgol[golygu]

Mae un ysgol yn Nhremadog, sef Ysgol y Gorlan, ysgol gynradd yw hon a bydd y plant yn mynd ymlaen i Ysgol Eifionydd, Porthmadog wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol. Bu Ysgol Steiner ym Mhlas Tan-yr-Allt o 1985 hyd tua 2000, sef Ysgol Steiner Eryri.

Eisteddfod[golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol anffurfiol yma ym 1872.

Enwogion[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato