Llanddwywe

Oddi ar Wicipedia
Llanddwywe
Mathpentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDwywe Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.780019°N 4.097143°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig ger arfordir Bae Ceredigion yn ne Gwynedd yw Llanddwywe ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd fymryn i'r de o bentref Dyffryn Ardudwy ar ffordd yr A496.

Mae eglwys Llanddwywe yn hynafol. Fe'i cysylltir â'r santes Dwywe, gwraig Dunod Fawr a mam i'r seintiau Deiniol, Cynwyl a Gwarthan, yn ôl traddodiad. Pan fu farw y bardd Wiliam Phylip o Hendrefechan yn 92 oed, cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanddwywe ar 11 Chwefror, 1669 : gwelir ei feddrod yno o hyd. Cedwir ar glawr cywydd marwnad iddo gan Phylip Siôn Phylip.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Y plwyf[golygu | golygu cod]

Mae Llanddwywe yn blwyf ers yr Oesoedd Canol. Roedd yn cael ei rhannu'n ddwy ran gyda darn o blwyf Llanelltud yn eu gwahanu, sef

  • Llanddwywe-is-y-graig,
  • Llanddwywe-uwch-y-graig.

Gorweddai yn Ardudwy Is Artro yn Ardudwy. Mae'n blwyf fynyddig sy'n ymestyn o'r arfordir i gyfeiriad y Rhinogau ac i lawr i ddyffryn Afon Mawddach.

Eglwys Llanddwywe.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]