Afon Wen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y pentref yn Sir Fflint, gweler Afon-wen.
Afon Wen

Mae Afon Wen (weithiau Afonwen) yn bentref bychan ar afordir deheuol Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd; cyfeirnod OS: SJ 13324 71493. Saif ar y briffordd A497 tua hanner milltir i'r de o bentref Chwilog a thua hanner y ffordd rhwng Cricieth a Pwllheli, lle mae'r afon o'r un enw yn cyrraedd y môr. Mae gwersyll gwyliau Butlins ym Mhenychain ychydig i'r gorllewin.

Ar un adeg gorsaf Afon Wen oedd lle roedd rheilffordd yn gadael y brif reilffordd i Bwllheli ac yn rhedeg tua'r gogledd i gysylltu a'r rheilffordd ar hyd yr arfordir gogleddol yng Nghaernarfon. Caewyd y lein yma yn 1965 a chodwyd y trac. Mae rhan o'r lein yma, rhwng Dinas a Chaernarfon, yn awr yn rhan o drac Rheilffordd Ucheldir Cymru. Erys y cof amdani, er enghraifft yn y gân Ar y Trên i Afon Wen gan Sobin a'r Smaeliaid.

Mae'r Lôn Goed yn cychwyn yn Afon Wen. Ceir sawl cyfeiriad ati gan lenorion, e.e. gan y bardd R. Williams Parry yn ei gerdd 'Eifionydd'.