Robert Williams Parry
Roedd Robert Williams Parry (6 Mawrth 1884 - 4 Ionawr 1956), adwaenir fel rheol fel R. Williams Parry yn un o feirdd mwyaf nodedig Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Cynnwys |
[golygu] Ei fywyd
Ganed R. Williams Parry yn Nhalysarn, yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn gefnder i T. H. Parry-Williams a Thomas Parry. Bu'n astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth am ddwy flynedd, ond gadawodd heb gael gradd ac aeth yn athro mewn ysgolion cynradd am gyfnod. Yn 1907 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor i orffen ei astudiaethau a graddiodd yn 1908. Athro ydoedd o ran ei alwedigaeth, a bu'n dysgu ym Mrynrefail a Chaerdydd cyn dod yn aelod o staff Coleg Prifysgol Cymru, Bangor yn gyfrifol am ddosbarthiadau allanol.
[golygu] Ei waith
Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd cryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr. Cyhoeddodd ddau gasgliad o gerddi, Yr Haf a cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1952). Mae ei gerddi mwyaf poblogaidd yn cynnwys 'Y Llwynog', 'Eifionydd' ac 'Englynion coffa Hedd Wyn'.
Cyhoeddwyd casgliad o'i ryddiaith dan y teitl Rhyddiaith R. Williams Parry dan olygyddiaeth Bedwyr Lewis Jones yn 1974.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Gwaith Williams Parry
- Cerddi
- Yr Haf a cherddi eraill (1924)
- Cerddi'r Gaeaf (1952)
- Arall
- Rhyddiaith R. Williams Parry, gol. Bedwyr Lewis Jones (1974)
[golygu] Astudiaethau
- Bedwyr Lewys Jones, R. Williams Parry (Cyfres Writers of Wales, 1972)
- Alan Llwyd (gol.), R. Williams Parry (Cyfres y Meistri, 1979). Cyfrol o ysgrifau beirniadol gan sawl awdur.
- Alan Llwyd, R. Williams Parry (Cyfres Llên y Llenor, 1984)
- T. Emrys Parry, Barddoniaeth R. Williams Parry (1973). Astudiaeth sy'n cynnwys ei holl gerddi fel atodiad.
- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru), erthygl am y bardd