Bedwyr Lewis Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ysgolhaig a beirniad llenyddol oedd yr Athro Bedwyr Lewis Jones (1 Medi 1933 – 29 Awst 1992), a aned yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru.

Magwyd Bedwyr Lewis Jones ym mhentref bach Llaneilian, Ynys Môn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor a Choleg Iesu, Rhydychen.

Rhwng 1957 a 1960 bu'n un o olygyddion y cylchgrawn llenyddol blaengar Yr Arloeswr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1974 a bu yno am ddeunaw mlynedd hyd at ei farwolaeth yn 1992.

Fel ysgolhaig ymddiddorai yn hanes yr emynwyr Cymraeg, y traddodiad Arthuraidd, ieithyddiaeth a'r ieithoedd Celtaidd a gwaith R. Williams Parry. Roedd yn feirniad craff ond caredig ac yn ffigwr poblogaidd, agos atoch. Roedd wrth ei fodd efo geiriau ac ymadroddion a'u tarddiad a chyfranodd yn gyson i'r Western Mail yn ei golofn wythnosol "Y Ditectif Geiriau".

Llyfryddiaeth[golygu]

Mae ei gyfrolau'n cynnwys:

  • Yr Hen Bersoniaid Llengar (1963)
  • cyfrol ar R. Williams Parry yn y gyfres Writers of Wales
  • Arthur y Cymry (1975)
  • Iaith Sir Fôn (1983)
  • Yn Ei Elfen (1992)
  • cyfrol ar R. Williams Parry yn y gyfres Dawn Dweud (golygwyd a chwblheuwyd gan Gwyn Thomas.

Yn ogystal golygodd,

Cysylltiadau allanol[golygu]