Coleg yr Iesu, Rhydychen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen
Enw Llawn Coleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen o Sefydliad Elizabeth
Enwyd ar ol Iesu Grist
Sefydlwyd 1571
Chwaer-Goleg Coleg yr Iesu, Caergrawnt
Prifathro Arglwydd Krebs
Arlywydd y JCR Seán Mac labhraí
Arlywydd y MCR Liz Dollins
Lleoliad Turl Street, Rhydychen
Is-raddedigion 340
Graddedigion 160
Gwefan Clwb Rhwyfo

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg yr Iesu. Mae ganddo waddolion ac arian wrth gefn o £79,700,391 (2003). Mae’n un o’r colegau mwyaf canolog yn ninas Rhydychen gyda mynediad yn Turl Street.

Hanes[golygu]

Sefydlwyd Coleg yr Iesu ym 1571, ar safle a fu gynt yn lleoliad i'r Neuadd Wen ers y drydedd ganrif ar ddeg. Fe'i sefydlwyd gan wyth o gomisiynwyr, Hugh Price, prebendwr Tyddewi y pennaf ohonynt, a rhoddwyd siarter i’r coleg gan y Frenhines Elisabeth I.

Arfbais Coleg Yr Iesu, Rhydychen

Ar sail ei addewid y byddai'n gadael £60 y flwyddyn ar ei farwolaeth, cafodd Hugh Price yr awdurdod i benodi prifathro, cymrodyr ac ysgolorion y coleg newydd. Ariannodd gychwyn adeiladu’r coleg, ond ar ei farwolaeth dim ond rhyw £600 o gyfraniad unwaith-ac-am-byth a adawyd ganddo.

Daeth rhoddion mwy sylweddol i’r coleg yn yr ail ganrif ar bymtheg. Gadawodd Herbert Westfaling, Esgob Henffordd, ddigon o arian i sefydlu dau gymrawd ac ysgoloriaeth (er iddo roi'r amod "my kindred shall be always preferred before anie others").[1] Gwariodd Eubule Thelwall, prifathro 1621-1630, ei arian ei hunan ar adeiladu capel, neuadd a llyfrgell. Bu'n rhaid dymchwel y llyfrgell dan brifathrawiaeth Francis Mansell (1630-49), a adeiladodd hefyd ddwy risfa ychwanegol er mwyn denu meibion bonedd Cymru i’r coleg.

Leoline (Llywelyn) Jenkins, prifathro 1661-73, a sicrhaodd ffyniant tymor hir y coleg, wrth iddo adael ar ei farwolaeth ym 1685 ystadau sylweddol a alluogodd sefydlu, a llenwi, nifer helaeth o gymrodoriaethau ac ysgoloriaethau .[2]

Blaen y coleg, Turl Street
Drws cartref y Prifathro.
Y Capel.

Ym 1974, bu’r coleg ymysg y grŵp cyntaf o golegau dynion ym Mhrifysgol Rhydychen i ganiatáu mynediad i fenywod (ynghyd â Brasenose, Wadham, Hertford a Choleg Santes Catrin).

Cysylltiadau Cymreig[golygu]

Mae gan y coleg gysylltiadau cryf â Chymru. Sefydlwyd y coleg ar gais Cymro, Hugh Price, ac fe'i gwelwyd ers y cychwyn fel 'Y Coleg Cymreig' ym Mhrifysgol Rhydychen. Dywedir mai'r hanesydd David Powel oedd y myfyriwr cyntaf i raddio o'r coleg. Cyn sefydlu Prifysgol Cymru, Coleg yr Iesu oedd un o'r prif sefydliadau lle roedd nifer (prin) o Gymry yn cael addysg uwch, ond gwaniodd y cysylltiad dros amser. Ym 1637, allan o 86 o fyfyrwyr ar y llyfrau, cofnodir cartref 60 ohonynt: 31 o dde Cymru, 13 o ogledd Cymru, 11 o Fynwy a'r Gororau, un o Ynysoedd y Sianel, a dim ond un o Loegr. Erbyn 1895 roedd y Cymry yn dal i fod yn y mwyafrif gyda 18 allan o 27 o newydd-ddyfodiaid â chymhwyster o Gymru.

Hyd at 1859 roedd statudau'r Coleg yn neilltuo bron y cyfan o'r cymrodoriaethau i Gymry, ond bu diwygiad yn y flwyddyn honno yn lleihau'r nifer oedd ar gael i Gymry yn unig i hanner y cymrodoriaethau.

Roedd y rhan helaeth o'r prif gymeriadau yn ei hanes, a bron pob un Prifathro, yn Gymry. Yn sgîl y cysylltiadau hyn, roedd rhan helaeth o waddolion y coleg hefyd yng Nghymru; dywedwyd ar un adeg mai Coleg yr Iesu oedd y tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru oll heblaw'r Goron.

Yn academaidd hefyd, mae cysylltiadau ffurfiol â bywyd Cymreig. Sefydlwyd Athro Celteg y Brifysgol yng Ngholeg yr Iesu ers 1877. Delir swydd Cymrodor Uwchrifol yn y coleg fel arfer gan un o uwch academyddion prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Cymru gynt). Sefydlodd Edmwnd Meyricke (1636-1713) ysgoloriaethau yn y coleg, yn bennaf ar gyfer myfyrwyr o ogledd Cymru, ac wedi eu cyllido gan incwm ystadau yn y gogledd. Erbyn heddiw, mae'r ysgoloriaethau yn parhau, ond yn agored i fyfyrwyr o Gymru gyfan neu fyfyrwyr sydd wedi cael addysg yng Nghymru.[3]

Er bod y dylanwadau Cymreig wedi lleihau dros y blynyddoedd, mae'r cysylltiadau ffurfiol sy'n parhau yn ogystal â thraddodiad yn cadw'r dylanwad yn fyw. Dethlir Dydd Gŵyl Dewi yn y coleg, er enghraifft.

Ers 1701 bu'r coleg yn berchen ar Lyfr Coch Hergest, un o ffynonellau gwreiddiol y Mabinogi. Erbyn heddiw mae'r llyfr yn Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen.

Cynfyfyrwyr[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Nodiadau[golygu]

  1. Martin E. Speight, ‘Westfaling , Herbert (1531/2–1602)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 (http://www.oxforddnb.com/view/article/29111, accessed 29 June 2006)
  2. http://www.jesus.ox.ac.uk/history/benefactors.php Benefactors of Jesus College. Date of access 29 June 2006.
  3. J.N.L. Baker (1971) Jesus College, Oxford 1571-1971 Oxonian Press


 
Colegau Prifysgol Rhydychen

OUCOAcolourCopyrightKaihsuTai.png

Balliol | Brasenose | Y Brifysgol | Corpus Christi | Eglwys Crist | Exeter | Y Drindod | Y Frenhines | Green | Harris Manchester | Hertford | Yr Holl Eneidiau | Yr Iesu | Kellogg | Keble | Linacre | Lincoln | Magdalen | Mansfield | Merton | Neuadd yr Arglwyddes Margaret | Neuadd St Edmwnd | Y Coleg Newydd | Nuffield | Oriel | Penfro | Regent's Park | St Anne | St Antony | Santes Catrin | St Cross | St Hilda | St Hugh | Sant Ioan | St Pedr | Somerville | Templeton | Wadham | Wolfson | Worcester

 
Neuaddau Prifysgol Rhydychen

Blackfriars | Greyfriars | Neuadd Campion | Neuadd St Benet | Neuadd Wycliffe | Tŷ San Steffan